Sut rydym ni’n mynd i’r afael â Chrefydd: Cynhadledd Flynyddol Gregynog 2010-2011

Yn ein cynhadledd flynyddol eleni canolbwyntiwyd ar y cwestiwn, “Sut rydym ni’n mynd i’r afael â Chrefydd?” Traddodwyd darlithoedd gan aelodau o staff ar “The Religious Studies Approach” (Dr Greg Barker), “Atheistic Approaches to Religion” (Stephen Gregg), “The Sociological Approach” (Dr Sarah Lewis) a “The Approach of Theology” (Yr Athro Johannes Hoff).  Hefyd roedd panel trafod a drefnwyd gan Dr Greg Barker, Stephen Gregg a Dr Amjad Hussain, a ffilm a drefnwyd gan Stephen.

Mae Charlotte Jones a Meinir Twose, myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, yn bwrw golwg yn ôl ar eu deuddydd yng Ngregynog, Canolbarth Cymru ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Gregynog.  

“Plasty prydferth yng Nghanolbarth Cymru yw Gregynog tua deg munud o’r Drenewydd, ac aeth Y Drindod Dewi Sant â ni yno ar ymweliad deuddydd.

Ar ddull plasty Tuduraidd, mae 101 o ystafelloedd yn yr adeilad ac felly roedd yn ddigon mawr i’r ddau grŵp o fyfyrwyr o Gaerfyrddin a Llambed.  Mae tiroedd a thirwedd yr ardal yn arbennig o drawiadol gyda golygfeydd prydferth a llwybrau cerdded hir yn arwain i bob cyfeiriad.  Roedd yn lle hardd iawn i ddysgu a chymdeithasu.

Llwyddiant y daith i Regynog oedd integreiddio â’r myfyrwyr o Gaerfyrddin oherwydd nid oeddem wedi cael cyfle i gwrdd â nhw cyn hynny. Roedd y sesiwn gyflwyno, a wnaeth yn siŵr bod myfyrwyr Llambed a Chaerfyrddin yn dod at ei gilydd, yn wych, am ei bod yn rhoi cyfle i ni ddod i nabod pobl eraill o'r un Brifysgol ond ar gampws arall.  Hefyd rhoddodd gyfle i ni fod ar delerau da â’r bobl y daethom ar eu traws, ac felly roedd cymdeithasu â myfyrwyr Caerfyrddin am weddill y daith yn llawer haws.

O ran y darlithoedd, cawsom bedair yn gysylltiedig â Chrefydd, sef dulliau Atheistaidd, Crefyddol, Cymdeithasegol ac Athronyddol ac roedd y rhain wedi’u gwasgaru dros ddau ddiwrnod. Yn bersonol cefais y dull Atheistaidd yn ddiddorol iawn am ei fod yn rhoi sylw i syniadau nad oeddem wedi’u hystyried e.e. bod pawb yn anffyddiwr. Yn ddiau byddai rhywun yn dadlau na allai hyn fod yn wir gan fod miliynau o bobl o bob cwr o'r byd yn cael eu hystyried yn 'grefyddol'. Ar ôl pendroni yn ei gylch fodd bynnag, nid ydym oll yn credu yn y naill Dduw neu'r llall, neu efallai nad ydym yn credu mewn crefyddau niferus hyd yn oed os ydy'r unigolyn hwnnw'n Gristion/Hindŵ/Sikh ymroddedig.  Mae duwiau neu Dduw i gael nad ydy pobl yn credu ynddynt/ynddo.  Felly, mae’r rhan fwyaf o bobl yn atheistaidd oni bai eu bod yn credu ynddynt oll.

Rhywbeth arall a roddodd fwynhad arbennig oedd y sesiwn holi ac ateb ar ddiwedd y diwrnod cyntaf lle aeth tri o'n darlithwyr, Greg Barker, Amjad Hussain a Stephen Gregg i flaen y neuadd i ateb ein cwestiynau ar grefydd. Amrywiai pynciau'r cwestiynau hyn o rôl menywod mewn crefydd, i ganlyniadau crefydd yn y byd sydd ohoni, i'r cysyniad o uffern a phwy fydd yn mynd yno.  Ymddangosai fod yr agwedd hon ar y daith yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan ei bod yn rhoi cyfle i ni holi cwestiynau ar grefydd na fyddem yn gallu'u holi fel arall, gan nad oeddent ar y cyfan yn gysylltiedig â’r modylau roeddem wedi’u dewis, ond yn berthnasol i Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol fel cyfanbeth.  Rhoddodd hyn sail gadarn i ni o ran barn grefyddol amrywiol ar y pynciau hyn.

Serch hynny i gloi, roedd y noson yn y bar ar ddiwedd y diwrnod cyntaf yn rhan o’r deuddydd a gafodd groeso arbennig!  Ar ôl cael cyfle i ddod i nabod pobl a gwrando ar ddarlithwyr, roedd y bar yn ffordd wych o ymlacio ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a darlithwyr sgwrsio â'i gilydd mewn ffordd na fyddai'n digwydd fel arfer.  O ystyried popeth, roedd yn daith bleserus iawn ac yn daith y byddwn i (ac eraill oedd yno rwy'n siŵr) yn hapus i’w gwneud eto!”

Charlotte Jones, Lefel 4, Cydanrhydedd Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth

Ar 31 Ionawr 2010, daeth myfyrwyr DACI yn y flwyddyn gyntaf ac o’r ddau gampws yn Llambed a Chaerfyrddin at ei gilydd yng Ngregynog, plasty o oes Victoria dan berchnogaeth Prifysgol Cymru sydd wedi’i leoli ychydig tu allan i’r Drenewydd ar dri chan erw o erddi a choetir.  Arhosodd myfyrwyr a darlithwyr dros nos yn y plasty eithriadol o hardd lle buom yn rhan o raglen ddeuddydd dan yr enw 'Sut rydym ni'n mynd i'r afael â Chrefydd?'. Cawsom nifer o ddarlithoedd ac anerchiadau cyffrous i ehangu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r cysyniadau o fynd i'r afael â chrefydd, o ennill dealltwriaeth o gymdeithaseg crefydd, o athroniaeth crefydd ac o'r cysyniad o anffyddiaeth.

Dewiswyd y rhaglen yn arbennig i ganiatáu i fyfyrwyr glywed y pynciau pwysig hyn ac i gyfoethogi myfyrwyr â gwybodaeth a dealltwriaeth i gefnogi’u cyrsiau a’r papurau y byddem yn eu hysgrifennu eleni yn ystod ein blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.

Yn ogystal â bod yn gyfle i glywed pynciau pwysig, roedd hefyd yn gyfle unigryw i gwrdd â chyd-fyfyrwyr yn eich dosbarth, gan gyfathrebu â nhw a threulio amser gyda nhw mewn amgylchedd tu allan i'r ystafell ddosbarth, a chael y cyfle i ddod i ‘nabod eich cymheiriaid mewn amgylchedd hollol wahanol tu allan i fywyd y Brifysgol. Yn ogystal â bod gyda chyd-fyfyrwyr, roedd y profiad hefyd yn gyfle cyntaf i ddosbarthiadau DACI yn y flwyddyn gyntaf o’r ddau gampws gwrdd ers creu’r brifysgol newydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â chaniatáu i ni wneud ffrindiau newydd, cwrdd â hen ffrindiau o’r ysgol a threulio amser gyda phobl sydd â'r un diddordebau â chi mewn crefydd.   

Roedd y ddau ddiwrnod yng Ngregynog hefyd wedi caniatáu i ni dreulio amser gyda’r darlithwyr ac yn gyfle i ni ddod i’w ‘nabod yn llawer gwell yn bersonol, a chael cyfle i fynd atynt tu allan i amgylchedd yr ystafell ddosbarth a chael yr un profiadau â nhw megis y lleoliad prydferth a’r bwyd blasus.

Treuliwyd y noson gyntaf gyda’r myfyrwyr yn ‘rhoi prawf' i'r darlithwyr, drwy gael y cyfle i fwynhau sesiwn o drafod a dadlau gyda'r darlithwyr, lle rhoddwyd tasg i'r myfyrwyr holi cwestiynau ar bynciau anodd a 'llosg' ynghylch crefydd i'r darlithwyr, gan roi prawf ar wybodaeth y darlithwyr ar agweddau anodd ar grefydd.

Roedd y daith i Regynog yn gyfle da a newydd a theimlais ei fod yn brofiad buddiol iawn a ddarparodd brofiad unigryw a gwahanol i fywyd arferol y Brifysgol.  Roedd yn gyfle i ni dreulio noson mewn plasty hyfryd o oes Victoria, i ddysgu am ei hanes gan ddal a chofleidio'r amgylchedd prydferth sydd o'i gwmpas, gyda'r cyfle hefyd i gwrdd â phobl newydd a dod i ‘nabod eraill.  Roedd yn brofiad pleserus ac unigryw ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Brifysgol amdano”.

Meinir Twose, Lefel 4, Astudiaethau Crefyddol Anrhydedd Sengl