Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Fyfyrwyr 2008/09
Mae Osman Kurt, ein myfyriwr cyfnewid cyntaf o Brifysgol Suleyman Demirel, yn Isparta, Twrci, yn bwrw golwg dros ei flwyddyn o astudio yn yr Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Islamaidd.
Osman Kurt Myfyriwr Erasmus
Mae atgofion melys gennyf am flwyddyn yn ôl, minnau yn cyrraedd o Dwrci ac yn cael fy ngolwg gyntaf ar Gaerfyrddin a hynny ar fore heulog, golygfa a wnaeth imi feddwl am lun ar gerdyn post. Ers hynny rwyf wedi cael cynifer o brofiadau da yng Nghaerfyrddin a gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae bod yn rhan o’r Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Islamaidd wedi bod yn wych, yn enwedig cael bod mewn darlithoedd trefnus. Teimlaf imi ddysgu sut i astudio’r pwnc hwn yn fethodolegol ac yn ffenomenolegol trwy ffynonellau academaidd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’m darlithwyr Astudiaethau Crefyddol am roi imi o’u hamser a’u sylw. Yn fwy na dim teimlaf yr hoffwn fod wedi parhau i ymchwilio’r pwnc crefydd a ffilm, pwnc y des i ar ei draws o fewn y modwl ‘Holy Hollywood’. Imi roedd y pwnc academaidd hwn wedi bod yn gymorth i ddeall y berthynas rhwng cyfryngau’r gorllewin a chrefydd. Cyflwynwyd y darlithoedd ar y traddodiadau crefyddol amrywiol hefyd yn fy marn i yn raenus iawn gan y darlithwyr gan daflu goleuni pellach ar y traddodiadau hyn.
Rhaid imi ddweud fy mod wedi mwynhau’r teithiau a drefnwyd gan y Swyddfa Ryngwladol yn fawr iawn, gan fynd â mi i leoedd megis Caerdydd, Caerfaddon a Llundain. Roedd teithio gyda chyd-fyfyrwyr rhyngwladol eraill yn llawer o hwyl, a’r rheini’n dod o ddiwylliannau amrywiol megis yrUnol Daleithiau,Japana’r Almaen.
Mwynheais yn fawr y ddau ddiwrnod yng nghanolfan encilio Gregynog, lle mae’r Ysgol yn cynnal ei chynhadledd flynyddol i fyfyrwyr. Roedd yn brofiad da iawn i mi.
Tu allan i’r Brifysgol rwyf wedi mwynhau’n fawr cyfarfod â Mwslimiaid o gefndiroedd amrywiol gan gynnwys Swffis. Hoffwn ddiolch i Dr Amjad Hussain am fy nghyflwyno i amrywiaeth o Fwslimiaid Prydeinig yng Nghymru a Lloegr. Mwynheais gymryd rhan mewn dathliadau’r Mwslimiaid Prydeinig megis gwyliau Eid, gŵyl Mavlid, ymgynulliadau Swffi ac yn syml mynd i weddïo ar ddydd Gwener. Hefyd yn ystod y flwyddyn cefais gyfle pwysig i ymweld ag aelwyd teulu Prydeinig yn Sir Benfro lle cefais groeso i aros yn eu cartref ac i fwynhau’u lletygarwch. Hoffwn ddiolch i Jessica Moraity a’i theulu am fod yn westeiwyr mor arbennig ac am fy nghyflwyno i letygarwch Prydeinig!
Byddwn yn cynghori myfyrwyr o Dwrci i ddod i’r Brifysgol hon i astudio crefydd – mae’n lle perffaith ar gyfer gwella'u hastudio. Mae hyn nid yn unig oherwydd y safonau academaidd gwych ar gyfer astudio crefydd ond hefyd am fod y lle yn darparu amgylchedd tawel, heddychlon a naturiol ar gyfer astudio.
Ar ôl astudio yma am flwyddyn hoffwn orffen trwy ddweud na fyddwn yn petruso cyn dod yn ôl yma i fynd â’m hastudiaethau academaidd ymhellach.

