Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Staff 2006/07
Rydym yn hapus iawn i roi gwybod i’n staff a myfyrwyr am y Rhaglen Gyfnewid Erasmus newydd gyda’r Gyfadran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Suleyman Demirel, Isparta, Twrci. Eleni mae tri Ysgolhaig ar Ymweliad o Dwrci wedi dod i draddodi darlithoedd i’n myfyrwyr a hefyd maent wedi cymryd rhan mewn panel trafod ymysg darlithwyr a myfyrwyr MA y Brifysgol. Yn ystod mis Mai aeth Dr Amjad Hussain i Brifysgol Suleyman Demirel gan draddodi darlithoedd ar Sikhiaeth ac Iddewiaeth a chael trafodaethau panel gydag ysgolheigion yn y Gyfadran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol.
Yn y llun yn y Rhes Flaen o’r chwith i’r dde: Ranji Gurucharanam (myfyrwraig y 3edd flwyddyn BA Crefydd), Helen Rees, yr Is-Ganghellor Dr. Medwin Hughes, Dr. Bilal Gokkir, Dr. Haluk Songur, Dr. Amjad Hussain, Lynda Maddock
Rhes Gefn:Kathleen Adnum, Stephen Gregg, Jessica Moraity (myfyrwraig yr 2il flwyddyn BA Crefydd), Dr Gregory Barker, Gwilym Dyfri Jones (Pennaeth y Gyfadran), Dr. Ismail L.Hacinebioglu, Dr. John Gillibrand
Athrawon o Dwrci yn Ymweld â’r Brifysgol
Mewn rhaglen gyfnewid arloesol daeth tri Athro mewn Athroniaeth a Chrefydd o Brifysgol Suleyman Demirel, Isparta, Twrci i’r Brifysgol i gwrdd â myfyrwyr a staff y Gyfadran. Ar hyd yr wythnos buont yn addysgu dosbarthiadau, yn cymryd rhan mewn dialog rhwng y crefyddau ac yn cwrdd â thiwtoriaid a myfyrwyr unigol. Cafodd yr ymweliad nawdd gan raglen Erasmus yr Undeb Ewropeaidd a'i drefnu gan yr Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Islamaidd.
Mae’r ymweliad yn cynrychioli’r rhagolygon a thensiynau hanesyddol sydd ar waith yn Nhwrci. Mae’r wlad hon, gyda’i gogwydd seciwlar swyddogol, yn cynnwys poblogaeth sy’n Fwslimiaid i raddau helaeth. Roedd yr ymweliad â'r Brifysgol yn gyfle i godi cwestiynau am y rhyngwyneb rhwng crefydd a gwleidyddiaeth ac i glywed gwybodaeth uniongyrchol am natur a phosibiliadau ffydd grefyddol a democratiaeth yn Nhwrci.
Roedd uchafbwyntiau’r wythnos yn cynnwys cwestiynau penodol gan fyfyrwyr ar natur Islam. Cafwyd ymatebion meddylgar i’r rhain gan y tri gwestai. Datgelai dialog rhwng Mwslimiaid a Christnogion ynghylch ffigurau Paul a Muhammad feysydd o gytuno ac anghytuno, a theimlai pawb a gymerodd ran fod y sgwrs megis dechrau. Rhannai pob un o’r ymwelwyr ei faes arbenigedd ei hun. Siaradodd Dr. Ismail L. Hacinabioglu ar syniadaeth Islamaidd a diwylliant Mwslimaidd, rhannodd Dr. Bilal Gokkir ei arbenigedd mewn astudiaethau Cwranaidd a chyfatebiaethau â’r Testament Newydd, a siaradodd Dr. Haluk Songur ar faterion yn ymwneud â chyfraith Islamaidd a diwylliant Mwslimaidd.
I ad-dalu’r gymwynas, aeth Dr. Amjad Hussain i Brifysgol Suleyman Demirel am bythefnos ym mis Mai i roi darlithoedd ar amryw o bynciau. Mae Dr. Amjad Hussain newydd ddod yn ôl o Raglen Gyfnewid Erasmus i Ddarlithwyr yn y Gyfadran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Suleyman Demirel, Isparta, Twrci. Traddododd ddwy ddarlith ar Sikhiaeth ac Iddewiaeth i fyfyrwyr blynyddoedd un, dau a thri yn y Brifysgol, a chymerodd ran mewn panel trafod gyda nifer o ddarlithwyr o Dwrci mewn nifer o Gyfadrannau ar y pwnc “Y Gorllewin a’r Dwyrain, Dialog rhwng Gwareiddiadau”. Dr Ismail Hacinabioglu oedd cadeirydd y gynhadledd ac ef a ddechreuodd y trafodaethau. Roedd y drafodaeth hon yn llawn syniadau gan ysgogi'r meddwl ynghylch pynciau am Islam, diwylliant a gwareiddiad.
Mae tua 30,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Suleyman Demirel. Rhannai’r Ysgolheigion ar Ymweliad a Dr Amjad Hussain ddymuniad am gyfnewid pellach rhwng y ddau sefydliad, gan wahodd staff a myfyrwyr i ymweld, darlithio a dysgu. Yn y dyfodol agos gobeithiwn gael rhaglen gyfnewid i fyfyrwyr yn ogystal â staff.
Yn y llun yn y Rhes Flaen o’r Dde i'r Chwith: Dr. Amjad Hussain, Yr Athro Ekrem Sariçoğlu (Deon y Gyfadran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol) a’r Athro Ismail Hakki Göksoy
Dolen â’r Gyfadran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Suleyman Demirel:

