Dr Catrin Williams BA (Cymru), PhD (Cantab)
Manylion ar sut i gysylltu
Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau IslamaiddE-bost: c.h.williams@ydrindoddewisant.ac.uk
Lleoliad
Adeilad Sheikh KhalifaCampws
Campws LlambedTeitl y Swydd
Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Testament NewyddRôl yn y Brifysgol
Dysgu israddedigion, cyfarwyddo gwaith ôl-raddedigion, ymchwilCefndir
Gyrfa Academaidd
2006-2010 Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Testament Newydd, Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Bangor
2004-2006 Darlithydd mewn Astudiaethau Testament Newydd a Chymrawd mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg Keble, Prifysgol Rhydychen
1988-2004 Darlithydd ac yna Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Testament Newydd , Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Cymru, BangorAelod o
- Society for Old Testament Study
- Society of Biblical Literature (aelod o bwyllgor gwaith yr uned ‘John, Jesus and History’)
- British New Testament Society
- Aelod o fwrdd golygyddol y gyfres ‘Library of New Testament Studies’ (T & T Clark International)
- Aelod o fwrdd golygyddol y cylchgrawn Journal for the Study of the New Testament
- Aelod o fwrdd golygyddol y cylchgrawn Biblical Interpretation
Diddordebau Academaidd
- Efengyl Ioan
- Esboniadaeth feiblaidd mewn Iddewiaeth cyfnod yr Ail Deml
Meysydd Ymchwil
- Dehongliad o’r Ysgrythurau Iddewig, yn enwedig Llyfr Eseia, mewn Iddewiaeth Cyfnod yr Ail Deml, Iddewiaeth ôl-feiblaidd (gan gynnwys traddodiadau targwmaidd a rabbinaidd), ac yn nhestunau’r Testament Newydd.
- Y cof, llythrennedd a llafaredd mewn Iddewiaeth a Christnogaeth gynnar.
- Efengyl Ioan a thraddodiadau Iddewig apocalyptaidd
Cyhoeddiadau
Detholiad o Gyhoeddiadau
‘Memory, Identity and Group Demarcation in the Gospel of John’, The Bible and Group Demarcation in Late Antiquity, gol. M. Lavee & R. Nikolsky (Jewish and Christian Perspectives; Leiden: Brill) (Gorffennaf 2011).
‘First-Century Media Culture and Abraham as a Figure of Memory in John 8:31-59’, The Fourth Gospel in First-Century Media Culture, gol. A. Le Donne & T. Thatcher (Llundain: T & T Clark International) (Ebrill 2011).
‘“Seeing the Glory”: The Reception of Isaiah’s Call-Vision in John 12:41’, Judaism, Jewish Identities and the Gospel Tradition: Festschrift for Professor Maurice Casey, gol. J.G. Crossley (Llundain: Equinox Press) (Hydref 2010).
‘The Gospel of John’, The Oxford Handbook of the Reception History of the Bible, gol. M. Lieb, J. Roberts, E. Mason, C. Rowland (Oxford Handbooks in Religion and Theology; Rhydychen: OUP, 2010), 104-117.
‘Newid Hinsawdd a’r Weledigaeth Apocalyptaidd’, Y Traethodydd, Hydref 2009, 226-35.
‘Inspecting an Aerial Photograph of John’s Engagement with Sources’, “What We Have Heard from the Beginning”: The Past, Present and Future of Johannine Studies, gol. T. Thatcher (Waco: Baylor University Press, 2007), 83-86.
‘Isaiah and Johannine Christology’, “As Those Who Are Taught”: The Reception of Isaiah from the LXX to the SBL, gol. P.K. Tull & C.M. McGinnis (Atlanta: Scholars Press, 2006), 107-24.
‘Isaiah in John’s Gospel’, Isaiah in the New Testament, gol. S. Moyise & M.J.J. Menken (Llundain/Efrog Newydd: T & T Clark International, 2005), 101-17.
‘Interpretations of the Identity and Role of Jesus’, The Biblical World, gol. J. Barton (Llundain: Routledge, 2003), Cyfrol II, 332-56.
Llyfr Datguddiad (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 2002).
‘“I Am” or “I Am He”? Self-Declaratory Pronouncements in the Fourth Gospel and Rabbinic Tradition’, Jesus in Johannine Tradition, gol. R.T. Fortna & T. Thatcher (Louisville: Westminster John Knox Press, 2001), 343-52.
I am He: The Interpretation of ’Anî Hû’ in Jewish and Early Christian Literature (WUNT II:113; Tübingen: Mohr Siebeck, 2000).
Gwybodaeth bellach
Prosiectau Ymchwil
Yr wyf ar hyn o bryd yn ysgrifennu cyfrol ar y defnydd o Eseia yn Efengyl Ioan, gan ganolbwyntio ar ddylanwad proffwydoliaethau Eseia ar gristoleg Ioan ac ar y modd y portreadir Eseia fel proffwyd-weledydd mewn traddodiadau Iddewig a Ioanaidd.
Yr wyf hefyd yn cyd-olygu casgliad o ysgrifau sydd yn dwyn y teitl John’s Gospel and Intimations of Apocalyptic; mae’r gyfrol yn cynnwys cyfraniadau gan ddeuddeg o ysgolheigion sydd yn trafod gwahanol agweddau ar y berthynas rhwng Efengyl Ioan a thraddodiadau Iddewig apocalyptaidd.

