Taith Astudio i Efrog Newydd 2009-2010
Mae’r fyfyrwraig Elaine Nicholas yn disgrifio Taith Astudio’r Ysgol i Efrog Newydd
Elaine Nicholas
BA Astudiaethau Crefyddol
“Start spreading the news, I’m leaving today, I want to be part of it, New York, New York”. Nid oedd y gytgan hon o arwyddgan y ddrama gerdd “New York, New York” gan Martin Scorcese fyth ymhell o’m gwefusau yn ystod y diwrnodau’n arwain at ein hymadawiad i’r Big Apple. Serch hynny, ni lwyddom i adael ar y diwrnod roeddem ni fod i wneud. Ataliwyd y daith gan y cwmwl lludw, oedd yn ymddangos fel petai am bara byth, gan amharu ar y llwybrau awyr a thawelu’r ffurfafen dros ganol Lloegr am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn! Wrth i’r tensiwn gynyddu a’r gobaith am hedfan bylu ymhlith y grŵp, sylweddolais fy mod i wirioneddol eisiau i ddinas enedigol Scorcese a chartref cymeriadau megis Walt Whitman a Woody Allen i fod yn gartref, am yr wythnos fach hon ym mis Mai, i’n grŵp ni hefyd. Roeddwn i am i bob un ohonom gael y profiad o fod yn “king of the hill, top of the heap, to wake up in the city that never sleeps!”
Ac o’r diwedd fe ddaeth y cyfle hwnnw i ddeffro yn y ddinas - bum bore’n olynol. Ac eithrio i’r rheiny ohonom a fu ar ein traed drwy’r nos, hynny yw! Roedd ein horiau effro yn llawn i’r ymylon - yn rhannol yn defnyddio’r cyfleusterau chwaraeon helaeth yn y gwesty, yn rhannol ar ymweliadau academaidd oedd wedi’u trefnu, yn rhannol yn gwneud elfen ymchwil bersonol y modwl ac yn rhannol yn cyflawni’r mater difrifol o weld y golygfeydd, siopa a chael HWYL! Rhyngom ni gyd fe welsom ni’r rhan fwyaf o brif atyniadau Efrog Newydd: Ellis Island – y ganolfan fewnfudo hanesyddol, cerflun eiconig y Statue of Liberty, safle ‘Ground Zero’ Canolfan Fasnach y Byd, yr Empire State Building, Central Park, Chinatown, Top of the Rock Observatory gyda’i golygfeydd syfrdanol o 360 gradd, y Museum of Modern Art, y Guggenheim Museum, Tiffany’s, Macy’s, gemau pêl-fas, theatrau … mae’r rhestr yn faith. Dyma ddiwrnodau a ddechreuai’n gynnar ac a orffennai’n hwyr iawn, iawn... Eto gyd, roeddem ni’n ddigon sionc ar y bore cyntaf hwnnw wrth i ni adael, yng nghwmni Iddewes Geidwadol, i archwilio agweddau ar Iddewon Efrog Newydd o safbwynt Uniongred a diwygiedig.
I ddechrau ein haddysg am yr Iddewon a’u profiadau, yn y gorffennol a’r presennol, aethpwyd â ni i’r Jewish Heritage Museum. Roedd yn lle gwych i ddechrau gan ei bod wedi’i neilltuo’n gyfan gwbl i archwilio cwmpas ac amrywiaeth rhyfeddol y diwylliant Iddewig. Gan rannu’n grwpiau bach aethom ati i archwilio’r Amgueddfa ein hunain gan ddarganfod paentiadau, cerfluniau, ffotograffau, deunydd ethnograffig, arteffactau archaeolegol, gwrthrychau seremonïol, a deunyddiau’r cyfryngau darlledu. Roedd y rhain i gyd yn dystiolaeth o ddygnwch a hyblygrwydd Iddewiaeth fel traddodiad parhaus sy’n esblygu. Gyda chloc y corff yn dal i fod ar ei hôl hi, roedd y casgliad hefyd yn brawf o’n dygnwch ni! Diolch byth, roedd hi’n amser cinio – amser i fwydo’r corff yn ogystal â’r meddwl. Gan ailymgynnull yng nghaffi’r Amgueddfa dyma ni’n llenwi’n boliau â bwyd kosher creadigol a blasus tu hwnt. Roedd yn gyfle hefyd i gael ychydig o orffwys angenrheidiol a chael ein nerth yn ôl.
A ninnau wedi dod atom ein hunain, ymlaen â ni i Park East Synagogue, addoldy Uniongred, a Temple Emmanu-El, synagog a chysegr i Iddewon Diwygiedig. Mae’n rhaid dweud bod y ddau synagog yn wirioneddol syfrdanol! Yng nghanol y tagfeydd a’r traffig trwm, yr anhrefn a’r cythrwfl, codai perlau pensaernïol. Ymgorfforai’r adeiladau hanesyddol hyn gelfyddyd, pensaernïaeth ac ysbryd y gorffennol gan roi cipolwg i ni o enaid y cymunedau mewnfudol sy’n gyfrifol am fodolaeth adeiladau mor wych. Roedd y ddau adeilad hefyd yn gofalu am bethau Iddewig a luniwyd i wella a chyfoethogi bywyd seremonïol Iddewig. Trefnwyd eu bod ar gael i ni eu gweld, ac roedd y gwrthrychau hyn yn darparu ymdeimlad byw o hanes cyfunol yr Iddewon. Rhaid dweud hefyd i ni gael croeso cynnes a brwd gan y ddau Rabbi, a fu’n siarad yn gynnes a brwdfrydig am gymunedau Iddewig cyfagos o dueddiadau gwahanol. Soniodd y ddau’n eiddgar hefyd am eu gwaith rhyng-grefyddol a’u rhaglenni gweithredu cymdeithasol, gan siarad yn betrus am agweddau ar y mudiad Seionaidd a Gwladwriaeth Israel.
Ar ail ddiwrnod y daith astudio aethom i ymweld ag Eglwys Seientoleg Gristnogol. Dyma adeilad arall ‘syfrdanol’ - ond yn fwy oherwydd ei safle canolog mewn ardal o eiddo tiriog drud oddi ar Times Square yn hytrach na’i fanylder pensaernïol. Yn wir dylai’r lleoliad arbennig hwn, yn yr ardal fasnachol unigol brysuraf yn America, fod wedi arwain y grŵp i ddisgwyl beth oedd o’n blaen - dull ‘gwerthu ymosodol’! Roedd yn ddull a fyddai’n achosi i’r grŵp rannu unwaith eto – y tro hwn yn emosiynol yn hytrach nag yn gorfforol. I un myfyriwr, nid oedd gweinidog yr Eglwys Seientoleg yn “ddim mwy nag efengylydd teledu” yn cyflwyno “medli o mymbo-jymbo marchnata gwneuthuredig”, tra nododd un arall, a wahoddwyd i fynd trwy’r broses o ddianeteg am y dydd, iddo “gael profiad a wnaeth wahaniaeth.” Safai’r gweddill ohonom rywle ar y llinell drosiadol rhwng y ddau begwn yma. Roeddent yn safbwyntiau a oedd yn destun trafodaeth fywiog yn ystod y diwrnodau dilynol. Fel gyda nifer o enghreifftiau o ‘werthu ymosodol’, gellir caru neu gasáu'r cynnyrch ond ni ellir ei anwybyddu!
Roedd bod yn Efrog Newydd yn ymdebygu ychydig i syrthio i Wlad Hud Alys. Gwelwyd sefyllfaoedd o wrthdaro a datrys wrth ad-drefnu’n llety, cafwyd sawl sgwrs yn arddull Tweedle-Dee a Tweedle-Dum ynglŷn â’r ffordd ‘orau’ o gyrraedd pen draw ein taith a threuliwyd nifer o eiliadau â gwên lydan fel Cath Caer wrth i ni longyfarch ein gilydd ar lwyddo yn y pen draw i ddygymod â’r rheilffordd danddaearol! Buom yn ymweld â thai bwyta ledled y ddinas gan gymryd rhan mewn ‘gwyliau bwyd’ y gellir eu disgrifio’n fras yn ‘de-partis’, gan ddod i’r casgliad yn y pen draw y gall bwyta ac yfed wneud rhywun yn fwy ond yn sicr ddim yn llai! Yn yr un modd ag y gwnaeth y Lindys ddysgu Alys am bwysigrwydd addasu i’r amgylchedd presennol, felly y dysgom ninnau hefyd gan amrywiol Rabbis am y modd y trawsffurfiwyd hunaniaeth Iddewig yn yr Alltudiaeth. Ac mewn adlewyrchiad o gyfarfyddiad Alys â realiti amgen y Frenhines Goch, fe gerddom ni filltir yn esgidiau'r Seientolegwyr Cristnogol.
Afraid dweud fod gennym ni gyd ein Jabberwocks i’w lladd; boed hynny wrth geisio cadw pen ffenomenolegol yn yr Eglwys Seientoleg Gristnogol ac wrth chwilio am atebion gan y gymuned Iddewig am Seioniaeth a Gwladwriaeth Israel, neu wrth ymaflyd â’r penderfyniad cymharol syml o wisgo esgidiau sodlau uchel neu fflat (fe wnaethon ni DIPYN o gerdded)! Fel y Wlad Hud, nid lle cyffredin mo Efrog Newydd ac mae trigolion y ddinas yn gymysgedd amrywiol tu hwnt o’r diwylliannol, y cymdeithasol yr ethnig a’r crefyddol! Cyfrannodd y cyfan at antur wych! Newyddion y byddem yn sicr yn ei dechrau’i lledu ar ôl dychwelyd i Brydain.

