Taith Astudio i Rufain 2010-11
Mae Michael Thomas (myfyriwr BA Astudiaethau Crefyddol) yn disgrifio Taith Astudio’r Ysgol i Rufain.
"Rem tene; verba sequentur", (O ddeall y pwnc, y geiriau a ddilyn). Pan ddywedodd Cato yr Hynaf (234-149 CC) y geiriau hyn ni allai fyth fod wedi sylweddoli pa mor berthnasol y byddent i ddisgrifio amcanion ac uchelgeisiau grŵp cymysg o deithwyr a fyddai’n ymweld â Rhufain rhyw 2000 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Rwy’n meddwl ei bod hi’n deg dweud ein bod ni gyd yn gobeithio y byddai peth o’r huodledd a ddangoswyd gan areithwyr megis Cato ayb yn ein harwain mewn rhyw ffordd trwy’r aseiniadau a’r tasgau oedd o’n blaen, ac yn sicr roeddem yn gobeithio y byddai’r “geiriau’n dilyn” pan ddeuai’r amser i’w cwblhau.
Mae bod yn rhan o daith astudio Ryngwladol nid yn unig yn gyfle gwych i allu archwilio rhywle newydd. Mae’n llawer mwy na hynny; mae’n golygu profi, ac o bosib bod yn rhan o ddiwylliant newydd gydag arferion newydd; yng nghwmni grŵp o gydweithwyr rydych chi eisoes wedi rhannu’r profiad o astudio yn y dosbarth gyda nhw.
Oeddem, roeddem â’n bryd ar ddarganfod Rhufain, o’i hysblander Imperialaidd mawreddog, i’w thröedigaeth i Gristnogaeth, Cristnogaeth yn yr oesoedd canol ac yn olaf Cristnogaeth fel y’i gwelir heddiw. I’n helpu â logisteg hyn roedd thema benodol i bob dydd, gan ganiatáu cymaint o sylw â phosibl i’r thema ayb.
Diwrnod 1...Dydd Llun 18 Ebrill: Rhufain Ymerodrol (Y Colisewm a’r Fforwm Rhufeinig) a Christnogaeth Ganoloesol (Mynachlog Fasilaidd St. Mary, Grottaferrata).
Daethom oddi ar y bws y tu cefn i’r Colisewm, ac felly bu’n rhaid i ni gerdded am ychydig ar hyd lonydd cul cyn y gallem brofi holl ysblander yr adeilad hollol wych hwn. Bron y gellir dweud ei fod yn rhagflaenydd i stadia chwaraeon y byd modern. Gallem empatheiddio â geiriau Byron pan ddywedodd, “Tra saif y Colisewm, saif Rhufain; pan syrth y Colisewm, syrth Rhufain a phan syrth Rhufain, syrth y Byd.”
Y Fforwm oedd man geni’r hen Rufain yn dyddio nôl i’r 8fed ganrif CC. Roedd yn ganolog i bob agwedd ar fywyd Rhufain, gan reoli Crefydd, Masnach a’r system farnwrol. Mae’r safle ble amlosgwyd Iŵl Cesar wedi cael ei gadw, a hyd yn oed heddiw mae pobl yn gosod blodau‘n rheolaidd er cof amdano.
Sefydlwyd Mynachlog Fasilaidd St. Mary (Grottaferrata), sydd wedi’i lleoli ym mryniau Tuscolo, yn wreiddiol gan Sant Nilus yn 1004 OC, yn dilyn cyfarwyddyd gan y Forwyn Fair mewn gweledigaeth. Fe’i cwblhawyd gan Sant Bartholomeus yn 1024. Gyda’i haddurniadau marmor a phaentiadau hardd, ynghyd â’i hurddwisgoedd sanctaidd ayb, mae fel petai’n taenu rhwyd o lonyddwch o amgylch yr ardal gyfan. Aethom ni gyd i eistedd yn dawel yn yr Eglwys i fyfyrio ar harddwch y lle. Dyma’r olaf o blith y mynachlogydd Bysantaidd-Groegaidd niferus i oroesi ac mae’n unigryw yn y modd y mae wedi cadw’r ddefod Fysantaidd gan barhau mewn cymundeb ag Eglwys Rufain.
Diwrnod 2...Dydd Mawrth 19 Ebrill: Cristnogaeth Gynnar (Tre Fontane, Y Catacwmau a St. Paul beyond the Walls)
Roedd y Catacwmau yn rhywbeth tra gwahanol, y tu hwnt i’r hyn roedd y mwyafrif ohonom wedi’i brofi o’r blaen. Rhyw fath o fynwent dan ddaear, heb unrhyw symboleg ar yr wyneb i ddynodi’i bodolaeth, gyda phopeth ynghudd yn ddwfn yn y ddaear. Roedd dyfnder a maint y lle yn anhygoel, ac roedd ceisio dychmygu’r gwaith corfforol a gyflawnwyd yma yn syfrdanol.
Mae St. Paul Beyond the Walls, fel mae’r enw’n ei awgrymu, wedi’i leoli y tu allan i furiau’r ddinas. Comisiynodd Cystennin y gwaith i gofio’r man lle claddwyd yr Apostol Paul, yn ôl y traddodiad. Cafodd y basilica hwn, sy’n syfrdanol o hardd, ei adnewyddu yn dilyn tân yn 1823 ac mae’n enwog am y gromfan fosaig, a grëwyd gan grefftwyr o Fenis yn amlwg ar gyfer beddrod Paul. Mae’r tu mewn yn wirioneddol anferth ac wrth i chi gerdded trwy’r drysau, mae’r wal bellaf yn ymddangos fel pe bai’n ymestyn ymhell i’r pellter. Yn 2009 cyhoeddodd y Pab Benedict XVI fod y darnau esgyrn yn yr arch garreg yn dyddio nôl i’r ganrif 1af neu’r 2il ganrif a chyhoeddodd "Fe ymddengys fod hyn yn cadarnhau’r traddodiad unfrydol a diwrthwynebiad mai gweddillion marwol yr Apostol Paul yw’r rhain".
Mae Tre Fontane yn cynnwys tair eglwys ynghyd ag Eglwys Sant Paul y Tair Ffynnon sy’n coffáu’r man ble cafodd Paul ei ddienyddio. Yn ôl y chwedl, wedi i’w ben gael ei dorri, fe darodd y ddaear dair gwaith ac yn y tri man hynny ymddangosodd ffynnon. Roedd ymdeimlad o lonyddwch yn bwrw cysgod dros y safle ac roedd yn rhyfedd meddwl y gallem fod yn sefyll ar yr union fan lle lladdwyd yr Apostol Paul.
Diwrnod 3...Dydd Mercher 20 Ebrill: Bore’n rhydd, taith gerdded yn y prynhawn yn cynnwys y Pantheon.
Roedd yn braf cael peth amser yn rhydd i archwilio strydoedd cul Rhufain ac yn y pen draw i dreulio amser yn mwynhau diwylliant y caffi’ neu fel y byddai’r Eidalwyr yn ei ddweud, 'cultura del caffè'. Mae bron popeth a welwch yn Rhufain ag iddo ryw arwyddocâd Hanesyddol neu Ddiwylliannol a doedd hi’n fawr o dro cyn i mi a rhai o’m cyd fyfyrwyr gyrraedd y 'San Pietro in Vincoli' i weld un o gampweithiau Michelangelo, 'Beddrod y Pab Julius II’ ac yn enwedig y cerflun o 'Moses'. Roedd y crefftwaith yn rhyfeddol. Mae bron yn wyrth yn ei hun sut y llwyddodd Michelangelo i greu hwn o floc o farmor. Yn wir, mae’n rhaid mai fe oedd y cerflunydd gorau a welodd y byd erioed!
Wedi hynny dyma ni’n cwrdd â gweddill y grŵp yn y 'Piazza Navona' ac yna ymlaen i’r 'Pantheon'. Mae’r perfformiadau stryd ar hyd Rhufain, fel mewn nifer o brifddinasoedd, yn rhyfeddol, ac yn arbennig felly yn y Piazza Navona. Roedd cymaint o amrywiaeth, hyd yn oed fersiwn o Capten Jack Sparrow - anhygoel. Y Pantheon (teml yr holl dduwiau) yw’r unig adeilad yn yr hen Rufain sy’n dal yn gyfan ac mae ganddi’r gromen fwyaf yn y byd sydd heb ei hatgyfnerthu, hyd yn oed ar ôl dwy fil o flynyddoedd, rhyfeddol! Fel y nododd un o’n criw ni, roedd yr hen Rufeiniaid yn sicr yn gwybod sut i adeiladu to!
Diwrnod 4 ...Dydd Iau 21 Ebrill: Cristnogaeth Fodern (Y Fatican a Castel Sant' Angelo)
Y diwrnod olaf ond un yn anffodus. Cymaint i’w weld o hyd. O na fyddai gennym ragor o amser, ond rhaid i bopeth da ddod i ben. Gallai heddiw fod yn ddiwrnod anhygoel. Wrth fynd i mewn i Ddinas y Fatican, sylweddolwyd bod ceisio gweld cymaint o arteffactau â phosibl yn dasg enfawr. Byddai’n deg dweud y gallai rhywun dreulio bron i wythnos yn gwneud hyn yn unig. Fodd bynnag roedd yr hyn a welsom yn syfrdanol, a’r uchafbwynt oedd y Capel Sistinaidd a’i nenfwd, y mae cymaint wedi canu’i glod. Mewn geiriau syml, mae ganddo’r waw ffactor o hyd! Profodd Michelangelo heb os ei fod yn fwy na cherflunydd mawr.
Roedd hi’n werth ymweld â Castel Sant' Angelo a gwnaeth hyn ein hatgoffa o’r cynteddau cudd rhwng y Fatican a’r Castell a ddisgrifiwyd yn llyfr Dan Brown, a ddaeth maes o law yn ffilm sef 'Angels and Demons'. Roedd y golygfeydd o’r Ddinas o ben y Castel yn wirioneddol wych, ac yn werth yr ymdrech i ddringo i fyny yno. Wel, efallai na fyddai pawb yn cytuno gan ei fod ar ddiwedd diwrnod eithaf hir, ond mawr oedd gwobr y rhai a wnaeth yr ymdrech.
Diwrnod 5...Dydd Gwener 22 Ebrill: Amser Rhydd a Dychwelyd Adref.
Roedd ychydig o amser ar ôl i ymweld am y tro olaf â Ffynnon Trevi (Fontana dei Trev), sy’n syfrdanol, ac un coffi olaf yn un o’r nifer o gaffis yn yr ardal, cyn troi’n ôl am y gwesty, y bws, ac yn olaf y maes awyr ac adref.
Un pwt bach olaf i’w gofio am Rufain. Bob tro mae dedfryd rhywun i farwolaeth yn cael ei gymudo unrhyw le yn y byd, mae’r Eidalwyr yn goleuo’r colisewm mewn golau aur. Drwy hyn maen nhw’n gwneud i’r symbol sy’n cynrychioli man marw cynifer o ddioddefwyr droi’n symbol o obaith newydd sy’n symboleiddio bywyd. Arrivedercci Roma.
Mae Kiran Lotay (myfyriwr BA Diwinyddiaeth) yn disgrifio Taith Astudio’r Ysgol i Rufain.
Ar ôl cael profiad o Rufain unwaith o’r blaen fel twrist, fe welais Rufain mewn goleuni gwahanol braidd ar y Daith Astudio. Er ei bod yn dda gweld mannau twristaidd Rhufain eto – dyw mwynhau cinio ar ddiwrnod heulog ar y Piazza Navona byth yn colli’i apêl (olew olewydd yr Eidal yw’r gorau rwyf erioed wedi’i flasu) – fe wnes i mewn gwirionedd dreulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn Rhufain yn edrych ar y ddinas trwy lygaid f’aseiniadau. Gofynnwyd i mi archwilio sut y byddai’r ymweliad yn effeithio ar fy narlleniad o lyfr y Datguddiad; ac i ysgrifennu adolygiad ar y llyfr Christianity in Ancient Rome: The First Three Centuries gan Bernard Green, a oedd wedi cael ei argymell fel gwaith darllen paratoadol ar gyfer y daith. Ychydig iawn o’r hyn a welsom fel rhan o’n taith oedd ddim o gymorth i mi gyda’r ddau aseiniad yma, ac mae’r broses o adfyfyrio ar ein profiad o Rufain drwy hyn yn rhywbeth unigryw o fuddiol am y mathau hyn o deithiau. Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi ddweud nad oedd edrych ar Rufain trwy lygaid llyfr y Datguddiad yn brofiad arbennig o gysurus. Mae’r rhannau y tybir eu bod yn cyfeirio at Rufain, o leiaf yn rhannol (penodau 13, 17 ac 18) yn datguddio ac yn barnu trachwant imperialaidd, creulondeb milwrol a balchder trahaus Ymerodraeth Rhufain yn ail hanner y ganrif gyntaf. Roedd ymweld â’r Colisewm gan wybod ei fod yn gofadail i’r cyfoeth ymerodrol a adeiladwyd ar dywallt gwaed a fernir mor hallt gan Dduw yn llyfr y Datguddiad yn ei wneud yn brofiad “twristaidd” dirdynnol braidd.
Diolch byth, fodd bynnag, nid oedd yn ddu i gyd. Un o’r profiadau mwyaf angerddol a gefais erioed oedd ymweld â Catacwm Sant Sebastian. Unwaith eto, roeddwn i’n ei brofi ag un llygad ar fy aseiniad adolygu llyfr, oedd yn cynnwys pennod gyfan ar y Catacwmau. Roedd fel mynd mewn i’r isfyd, ond yn brofiad tangnefeddus iawn yn hytrach nag arswydus. Yn unol â’r syniad eu bod yn fynegiant o’r gobaith Cristnogol o atgyfodiad y meirw, teimlai fel man gorffwys: yn rhywle y gallai brodyr a chwiorydd “huno” yng Nghrist. Er bod yr ymweliad yn boenus o fyr (gallwn i fod wedi treulio o leiaf ychydig oriau yno), llwyddais i werthfawrogi sut roedd y catacwmau yn cynrychioli cydymddibyniad y gymuned Gristnogol gynnar, gyda’r rhai mwy cyfoethog oedd wedi cael tröedigaeth yn darparu man claddu a mannau cymunedol i gynnal seremonïau ar gyfer y rhai oedd â llai o fodd. O gofio ei fod yn fan llawn o bobl marw, roedd wir yn eithaf arbennig, ac roeddwn i ond yn gallu deall hynny oherwydd yr aseiniad a roddwyd i mi.
Dyma ddwy ran yn unig o’r daith a roddodd brofiad astudio unigryw i mi - mae’r profiad synhwyraidd o fod yn rhywle go iawn yn adnodd prin a gwerthfawr ar gyfer adfyfyrio ac astudio. Er bod tipyn o hwyl i’w gael, fy mhrofiad i oedd y gellir cael mewnwelediad ysgolheigaidd gwerthfawr o gael bod yn rhywle, yn hytrach na darllen amdano’n unig.

