Taith Astudio i Dwrci 2008/09
Mae’r fyfyrwraig Jessica Ledbetter yn disgrifio taith astudio gyntaf oll yr Ysgol i Dwrci.
Jessica Ledbetter
MA Ysgrifennu Creadigol
Yr hyn sy’n sefyll allan fwyaf yn fy meddwl am y 12 diwrnod a dreuliais yn Nhwrci gyda’r rhaglen Astudiaethau Crefyddol, nawr fy mod wedi cyrraedd yn ôl yn ddiogel i Gymru lawog, yw’r gwres. Roedd yn danbaid wrth gyrraedd Istanbwl, ond doedd hynny’n ddim o’i gymharu â’r hyn a ddatblygai wrth inni fynd ymhellach i’r de; roedd yn rym a gurai lawr ar eich ysgwyddau gymaint, pe byddech yn sefyll yn yr haul yn rhy hir, gallech bron deimlo’ch corff yn dechrau rhoi dolur am fod pwysau’r gwres mor drwm. Roedd cysgod, cuddfan rhag y gwres, yn brin ac yn anodd ei ganfod.
Ond mae atgofion fel hyn bob amser yn pylu, ac yn pylu’n gyflym, oherwydd yr hyn sy’n goresgyn yr atgofion am y gwres yn Nhwrci yw’r bobl, y bwyd, y lliwiau a’r sŵn; mae delweddau gennyf o strydoedd Twrci, yn orlawn o gathod ar grwydr, sŵn yr alwad i weddïo bum gwaith y dydd, temlau Rhufeinig yn llechu tu ôl i siediau gwartheg, y ffyrdd pantiog a ymdroellai mewn ac allan o galon y wlad, y temlau a’r eglwysi, mosgiau a synagogau. Nid oedd Twrci’n debyg i unrhyw wlad arall rwyf wedi ymweld â hi ac roedd y pethau annisgwyl yn unigryw gan ddod â dealltwriaeth newydd yn ogystal â mwynhad newydd bob tro. Dinas sy’n ferw ag egni yw Istanbwl ac mae’n teimlo fel petai ar gyffordd popeth. Mae’r bobl yn fodern, ffôn symudol yn y llaw, a sbectol haul yn gadarn yn eu lle, ond eto maent yn dal i gadw rhywfaint o letygarwch, llawenydd a gorfoledd eu diwylliant. Ymysg swyddfeydd, blociau o fflatiau a siopau agor pob awr safai rhai o safleoedd prydferthaf y byd: roedd y Mosg Glas, â’i 20,000 o deils glas, yn saib tawel rhag dwndwr y ddinas, a chromen Hagia Sophia yn ddigon i wneud i’m gên ddisgyn. Daeth Palas Topkapi â delweddau o Mil ac Un o Nosau Arabia i’r cof, a dirgelwch ac ecsotigiaeth y Swltaniaid yn dod â’r lle’n fyw.
Tipyn o hirdaith oedd ein siwrnai ar draws Twrci; buom yn teithio o begwn i begwn, yn croesi cannoedd o filltiroedd o ffyrdd anwastad trwy dirlun oedd gyda’r prydferthaf imi ei weld erioed. Saith Eglwys y Datguddiad, Temlau Apollo ac Artemis, ac Eglwys Sant Polycarp - dyna enwi ond ychydig o’r cannoedd o fannau crefyddol y buom yn ymweld â nhw yn Nhwrci. Daeth yn amlwg wrth i ni deithio mwyfwy i mewn i Dwrci pa mor hanfodol bwysig y bu Twrci yn y gorffennol, ac y mae’n dal i fod heddiw, i ddatblygiad crefyddau’r byd. O fewn ffiniau’r wlad hon perthyn hanes tair o brif grefyddau’r byd. Efallai mai Effesus oedd fy hoff ran o’n hamser yn Nhwrci. Mae adfeilion adeiladau ar wasgar trwy strydoedd y ddinas Rufeinig hynafol hon lle bu unwaith bobl yn ffynnu. Miloedd o golofnau marmor, ffresgoau a rhithiau o’r fetropolis hon o’r oesoedd a fu yn arwain yr ymwelydd i lawr ac i mewn i galon y ddinas lle saif, hyd heddiw, adeilad enwocaf y ddinas: y llyfrgell. Hardd, tangnefeddus, mawreddog – roedd hi’n bopeth roeddwn wedi’i ddisgwyl ond eto yn gymaint mwy nag roeddwn wedi’i dybio. Gallwn fod wedi treulio’r diwrnod cyfan yn edmygu’r tyst prydferth hwn i amser.
Gwnaethom gwblhau’n taith trwy Dwrci yn Isparta ym Mhrifysgol Suleyman Demirel gyda darlithoedd a thaith o gwmpas y campws. Am groeso cynnes a gawsom, a’r campws yn un mor brydferth – mae llawer o’m cyd-fyfyrwyr yn cynllunio’n barod i dreulio semester yno.
Profiad oes oedd Twrci. Pythefnos ryfeddol a dreuliais mewn gwlad brydferth gyda rhai o’r bobl orau rwyf erioed wedi teithio gyda nhw; yn bendant byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried Twrci i neidio ar yr awyren nesaf, ewch.

