Taith Maes Astudio: Caerdydd 2009/10
Mae Michael Thomas, myfyriwr Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Grefyddol ar ei flwyddyn gyntaf, yn bwrw golwg yn ôl ar Daith Maes Astudio flynyddol ein Hysgol i Gaerdydd yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol.
Ar y diwrnod cyntaf nôl ar ddechrau’r ail semestr cawsom ni gyd gyfle fel adran i gael profiad uniongyrchol o astudio dwy brif grefydd. Trwy deithio fel grŵp cafodd pawb y cyfle hefyd i ddal fyny ar bethau a thrafod amrywiol agweddau o’r flwyddyn o’n blaen.
Yno i’n croesawu yn y deml Hindŵaidd oedd Mr Patel a lwyddodd (mewn byr amser) i roi trosolwg hynod fanwl i ni o Hindŵaeth o safbwynt rhywun ‘o’r tu mewn’. Yn ychwanegol at hyn, dangosodd holl agweddau gwesteiwr rhadlon a charedig iawn gan ateb pob cwestiwn a daflwyd ato. Roedd yr arddangosfa o liw a manylder yn y deml yn falm i’r synhwyrau.
Yn dilyn ein hymweliad â’r Mandir (Teml Hindŵaidd) cawsom gyfle i ymweld â bwyty Indiaidd am ginio.
Wrth i ni ymweld â’r Mosg cawsom groeso tebyg i’r hyn a gawsom yn y deml Hindŵaidd, a chawsom gyfle i weld y Salat-ul-Asr (gweddïau ganol prynhawn) gan i ni gyrraedd ychydig cyn y dechrau.
Profodd hyn hefyd i fod yn brofiad unigryw (i’r rhan fwyaf ohonom byddwn ni’n tybio) a chawsom y cyfle eto i gael profiad uniongyrchol, o’r tu mewn, o Islam. Cawsom hefyd drosolwg manwl tu hwnt o brif ddaliadau’r ffydd Fwslimaidd a’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Fwslim.
Heb os na oni bai, dyma ddau brofiad gwahanol iawn ond yr un mor unigryw i gael cipolwg arbennig iawn ar y ddwy grefydd yma. Petai’r cyfle’n codi eto yna’n bendant ni ddylid colli’r profiadau hyn.

