Taith Maes Astudio: Ynys Wydrin (Glastonbury) 2008-09

Mae Sarah Mullery a Chris Knight, myfyrwyr Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Grefyddol ar eu blwyddyn gyntaf, yn bwrw golwg yn ôl ar Daith Maes Astudio flynyddol yr Ysgol i Ynys Wydrin (Glastonbury) yn gynharach y flwyddyn academaidd hon.

Sarah Mullery 
BA Astudiaethau Crefyddol

A hithau’n dref sy’n enwog am ei hanes unigryw a’i hysbrydolrwydd amgen, roedd gennym ddisgwyliadau uchel o’r eiliad y cyhoeddwyd y daith. Cawsom gyfle i ymweld â theml y dduwies ac yno fe wnaethom ni gwrdd âGeorgina, yr offeiriades, a eglurodd beth mae’n ei olygu i fod yn aelod o deml y dduwies a’i harwyddocâd arbennig ynGlastonburyei hun. Dyma gyfle ardderchog i ddeall ysbrydolrwydd amgen gan unigolyn a oedd yn hyfryd o onest a dymunol. Ar ôl treulio amser yn crwydro siopau’r dref am gardiau tarot a ffyn arogldarth, aethom ati i ddringo i ben Bryn Glastonbury, gan ddysgu am ofn mawr ein darlithydd o uchder, ynghyd â’r cysylltiad rhwng y bryn a chwedlau am y Brenin Arthur a thylwyth teg. Yn dilyn dosbarth meistr cyflym yn y grefft o ddewinio am ddŵr (sydd wir yn gweithio!) roedd yn amlwg bodGlastonburywedi gwneud argraff ar bawb.

Chris Knight
BA Addysg Grefyddol

Cynhaliwyd y diwrnod astudio ynGlastonburyar ddechrau’r ail semestr, i’n paratoi at y tymor o’n blaenau. Ar y daith i lawr o Gaerfyrddin i Glastonbury, rhoddodd Stephen Gregg ddarlith gynhwysfawr iawn am yr hyn y byddem yn ei weld. Doeddwn i erioed wedi ymweld â’r dref o’r blaen a hyd y gwn i roedd ond yn enwog am ei gŵyl gerddoriaeth.

Yn ystod y dydd daeth yn amlwg fod ganGlastonburyhanes crefyddol cyfoethog a diddordeb cyfoes byw mewn mudiadau crefyddol newydd ac ysbrydolrwydd.  Wedi i ni gyrraedd cawsom gip cyflym ar y siopau, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn gwerthu ystod eang o nwyddau a llyfrau crefyddol diddorol. Roedd y rhan fwyaf o’r siopau’n gwerthu nwyddau’n ymwneud â’r Dduwies, gan fod Glastonbury’n gartref i’r unig deml gydnabyddedig i’r Dduwies. Aethom i ymweld â’r deml hon a chael anerchiad buddiol iawn gan offeiriades go iawn.

Yn dilyn ein hymweliad â’r deml, aethom ati i ddringo’r bryn sydd i’w weld am filltiroedd o amgylch.  Ar ben y bryn roedd capel St Michael’s, ac fe dreuliom ni dipyn o amser yn mwynhau’r olygfa ac yn dysgu am arwyddocâdGlastonburyi rai Cristnogion.

Roedd y daith i Glastonbury yn ddiwrnod buddiol dros ben, a chawsom gyfle i weld drosom ein hunain amrywiaeth eang o grefyddau gwahanol yn cydfodoli, ond hefyd yn cystadlu mewn un ardal ddaearyddol.