Myfyrwyr yn creu safle eu hunain ar gyfer dysgu gyda natur
Myfyrwyr yn dewis safle i blannu coed helyg mewn cylch i greu cuddfan ar gyfer adrodd storïau i blant yn y dyfodol. Ross, Swyddog Addysg Comisiwn Coedwigaeth Cymru, a ddarparai’r arbenigedd ar sut i blannu’r coed ifanc.


Darparodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru dderw, ynn a chyll ifanc, oll yn rhywogaethau brodorol yng Nghymru. Gweithiai’r myfyrwyr mewn grwpiau, gan ymarfer eu sgiliau trafod, gwaith tîm a sgiliau corfforol i greu cysgod rhag y gwynt i’r dyfodol.



Owen Thurgate yn esbonio y gall plant gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored corfforol hyd yn oed ar ddiwrnod glawog gyda lloches syml fel hon (gweithgareddau megis helfa drysor am lindys glanhawyr pibell cuddliw a dod â nhw yn ôl i'w cyfrif).
Addysgai weithdrefnau diogelwch i ni ynghylch cynnau a chynnal tân yn ddiogel – cawsom ein mesmereiddio gan y fflamau.


Wedyn ar ol ddiwrnod caled o waith dod yn ôl i’r lloches i orffwys ac yfed coco twym.
Gyda diolch arbennig i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru am esbonio rôl Swyddogion Addysg sy’n gweithio o fewn y Comisiwn Coedwigaeth, am ddarparu’r coed ifanc ac am ein harwain trwy’r prosiect hwn.
Cawsai rhai o’r myfyrwyr gymaint o ysbrydoliaeth o’r dull hwn o helpu plant i ddysgu nes eu bod yn bwriadu hyfforddi fel arweinwyr ysgolion coedwig eu hun ac yn gobeithio cymryd rhan mewn ymweliad astudio â Sweden ym mis Mawrth 2010 i helpu dysgu arfer da pellach.
Cynlluniau Natur
Myfyrwyr blwyddyn dau BA Addysg Blynyddoedd Cynnar yn y modiwl 'Camu Allan-Dysgu yn yr Awyr Agored' yn arbrofi gyda syniadau i ddefnyddio natur yn eu gwaith gyda phlant ifainc Dyma engreifftiau o'r gwaith creadigol:

Tŷ Mwd
Cymysgu dŵr a phridd er mwyn peintio enwau a phatrymau
Shari, Yasmin, Tanya ac Adelle yn gweithio gyda'i gilydd i wneud 'mobile' allan o ddail yr Hydref.

Cysgod o frigau gan Jessica, Rebecca, Kirstin a Joseph

