Cynefino

Mae’r ysgol yn ystyried yr wythnos hon fel rhan bwysig iawn o ddechrau ar eich cwrs gradd. Llunnir y rhaglen gynefino yn ofalus i sicrhau eich bod yn cael pob cyfle i:

  1. gyfarfod â chyd-fyfyrwyr newydd
  2. cyfarfod ag aelodau staff
  3. ymgyfarwyddo â’r campws
  4. ymgyfarwyddo â’ch ystafelloedd darlithio
  5. deall eich amserlen.

Mae’r ysgol yn cynnig croeso cynnes ac yn cyflwyno rhaglen gynefino gofiadwy a bywiog yn ystod yr wythnos gyntaf. Fel staff, ceisiwn sicrhau eich bod yn ymwneud â’r holl weithgareddau a gynlluniwyd gennym fel eich bod yn cael yr ymdeimlad o berthyn i’r ysgol a bywyd y Brifysgol.

Mae’r gweithgareddau yn cynnwys nifer o gemau sydd wedi’u cynllunio o gwmpas y campws, ynghyd â phrynhawn pleserus a hynod weithredol ym Mharc Heatherton, Sir Benfro.

Erbyn diwedd yr wythnos, mae myfyrwyr yn y gorffennol wedi canfod eu bod yn llawer mwy hyderus i wynebu’r darlithoedd sydd yn dechrau’r wythnos ganlynol, a’u bod hefyd wedi gwneud ffrindiau gydol oes.

Cysylltu â Ni

Cafwyd caniatad rhieni ar gyfer y delweddau o blant â ddefnyddir ar y wefan yma.