Teithiau ac Ymweliadau
Mae’r Ysgol Plentyndod Cynnar yn hoff iawn o fynd ar deithiau ac ymweliadau. Mae ymweliadau yn rhan bwysig iawn o’n gweithgareddau. Pa un ai’n ymweld â lleoliadau blynyddoedd cynnar lleol, bod allan mewn esgidiau glaw yn ystod sesiynau chwarae awyr agored neu’n mwynhau Parc Antur Heatherton yn ystod yr wythnos anwytho, caiff ymweliadau eu cynllunio i roddi digon o brofiadau ysgogol i fyfyrwyr. Bob blwyddyn bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i fynd ar daith breswyl er mwyn archwilio ystod amrywiol o ddarpariaeth ac adnoddau blynyddoedd cynnar, yn ogystal â mwynhau cyfleoedd cymdeithasol gyda’u cyd-fyfyrwyr.
Mae’r ymweliad preswyl â Llundain bob amser wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn i fyfyrwyr a thiwtoriaid:-
Dyfyniadau/atgofion am y Daith i Lundain
Cafwyd caniatad rhieni ar gyfer y delweddau o blant â ddefnyddir ar y wefan yma.

