Lundain

Dyfyniadau/atgofion am y Daith i Lundain

Caryl Lewis

"Roedd marchnad Camden Lock wir yn agoriad llygad, rhaid mynd yno eto."

Yn ymweld ag arddangosfa
adnoddau blynyddoedd
cynnar

"Roedd y Ganolfan Integredig (Islington) yn dda iawn, cefais syniadau da ar gyfer y dyfodol. Dysgais pa mor wahanol yw bywyd i rai pobl a phlant sy'n byw yn yr ardal honno."

"Cawsom amser i gerdded ar hyd afon Tafwys, a gweld Big Ben."

Joanna Holland

"Roedd yr Arddangosfa Feithrin yn arbennig o dda o ran syniadau a chefais dipyn o wybodaeth yn rhad ac am ddim a fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol, ac yn ein haseiniadau."

"Roedd y ganolfan integredig a Meithrinfa McMillan yn ardderchog, yn enwedig y mannau chwarae yn yr awyr agored. Mae hefyd yn dda gweld y damcaniaethau yr ydym ni wedi dysgu amdanynt yn cael eu rhoi ar waith."

"Byddwn yn argymell mynd i weld sioe, roedd yn wych."

"Roedd marchnadoedd Camden yn wahanol a diddorol - profiad da."

"Roedd y daith yn ddiddorol o ran gweld lleoliadau eraill, a'r holl fathau gwahanol o weithgareddau sydd ar gael ar draws Prydain, yn enwedig yn Camden ac Islington."

Tu fas carchar Wandsworth - ymweliad i ddysgu
effaith ar y teulu pryd mae tad/gwr mewn carchar

Helen Williams

Mae Llundain yn rhoi cip olwg i ni o'r holl amrywiaeth yn ein gwledydd.

Mae arddangosfa Nursery World yn llawn syniadau da, llyfrau, teganau a rhoddion am ddim!

Roedd y tiwb yn eithaf brawychus i ddechrau, ond erbyn diwedd ein taith roeddem yn hen law arni!

Mae siopa yn Llundain yn ffantastig - pe bawn i'n byw yn Camden byddwn i'n fethdalwr mewn wythnos!

Mae'r bywyd nos yn grêt - does unman fel pe bai'n cau. Digonedd o sioeau gwych i'w gweld.

Allwn ni ddod eto flwyddyn nesa'?

Adnoddau newydd yn yr arddangosfa

Emma Thomas

"Ymweliadau diddorol iawn a thaith ddifyr dros ben."

"Ar y gwibdeithiau gwelwyd y theori ar waith".

"Digonedd o amser i wneud yr hyn a fynnoch gyda'r nos - aethom ni i weld Fame".

Becky Yates

"Roedd marchnadoedd Camden Lock yn fannau da i ymweld â nhw, digon o nwyddau rhad!!"

"Roedd yr arddangosfa feithrin yn ardderchog, gyda chymaint o stondinau diddorol a buddiol. Defnyddiol iawn i'r dyfodol".

"Roedd y ganolfan deuluol hefyd yn ddiddorol iawn, yn agoriad llygad go iawn i fywydau pobl eraill. Da gweld y sefyllfaoedd ymarferol."

"Rwy mor falch mod i wedi mynd a byddaf yn bendant yn dweud wrth bobl eraill am fynd flwyddyn nesaf."

Byddwn yn bendant yn argymell mynd i weld sioe - roedd yn werth pob ceiniog."

Adnoddau newydd yn yr
arddangosfa

Laurel Caster

Nid yn unig oedd y daith i Lundain yn brofiad buddiol iawn yn addysgol, roedd hefyd yn hwyl wrth i'r myfyrwyr gael cyfle i ddod yn rhan o fwrlwm bywyd y ddinas!

Fy hoff beth i oedd yr ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr Carchar Wandsworth, roedd yn wirioneddol wych - yn ddiddorol, yn hwyl, ond hefyd yn codi peth ofn....

Heb os, yn sgil y daith hon rydym mewn sefyllfa fanteisiol o'i gymharu â'r rhai benderfynodd aros adref, gan ein bod wedi cael digonedd o wybodaeth ddefnyddiol ac wedi bondio fel grŵp, cyd-fyfyrwyr a ffrindiau!

Diolch o galon am y cyfle arbennig hwn. Pe bawn i'n cael y cyfle, byddwn i'n dychwelyd yno eto ar amrantiad!!

Bethan Griffiths

Roedd siop deganau Hamleys yn rhyfeddol, gallwn i fod wedi gwario ffortiwn ar fy nith.

Roedd yr arddangosfa Feithrin yn benigamp - cefais dipyn o wybodaeth ddefnyddiol ddylai fod o help yn y dyfodol.

Roedd yr ymweliadau'n agoriad llygad ac yn ddiddorol iawn, gan ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol y gallaf, gobeithio, ei chynnwys yn fy meithrinfa unwaith y bydd wedi agor.

Roedd y daith hon i Lundain yn gyfle gwych ac rwy'n falch i mi fynd, byddwn yn ei hargymell i unrhyw un ar y cwrs.

"Os cewch chi'r cyfle, ewch!"

Diolch am amser bendigedig.

Cysylltu â Ni

Cafwyd caniatad rhieni ar gyfer y delweddau o blant â ddefnyddir ar y wefan yma.