Gweithio gyda phlant dan 3 oed
Mae gofyn arbenigedd penodol i weithio gyda phlant dan 3 oed. Rhaid i’r gweithwyr yma fod yn wybodus ac yn fedrus wrth hyrwyddo datblygiad a dysgu plant ifainc iawn. Rhaid deall pwysigrwydd iaith yn y broses o sicrhau lles a chysyniad o’r hunan yn y plentyn bach.
Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda meithrinfa dydd y Brifysgol, Y Gamfa Wen ac mae’n myfyrwyr ni, israddedig ac ôlraddedig, yn cael cyfleoedd i ennill profiad yn y feithrinfa.
Mae staff yr Ysgol hefyd wedi bod yn cynnal hyfforddiant mewn swydd ar gyfer meithrinfeydd yn y maes pwysig hwn o weithio gyda phlant dan 3 oed a hynny drwy’r Gymdeithas Meithrinfeydd Dydd (NDNA).
Mae’r Ysgol yn cynnig rhaglen arbennig ar gyfer y rhai hynny sydd am gael gyrfa mewn rheoli meithrinfeydd, sef Tystysgrif Addysg Uwch mewn Rheoli Meithrinfeydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â s.saer@ydrindoddewisant.ac.uk
Cafwyd caniatad rhieni ar gyfer y delweddau o blant â ddefnyddir ar y wefan yma.

