Y Gamfa Wen
Meithrinfa ddydd y Brifysgol yw Y Gamfa Wen. Mae'r enw'n dod o hwiangerdd hyfryd yn y Gymraeg - sticil ar gyfer camu dros ffens, clawdd neu glwyd yw camfa - ac mae'r gân yn rhan o repertoire pob plentyn Cymraeg eu hiaith. Mae'r Gamfa Wen yn darparu gofal i blant myfyrwyr, plant staff a'r gymuned leol, a hynny i blant o 6 wythnos hyd at 5 mlwydd oed.
Prif iaith y feithrinfa yw'r Gymraeg ac mae'n cynnwys, yn ei darpariaeth, sawl damcaniaeth arloesol a dulliau chwarae-ganolog a bwysleisir yn rhaglenni addysg yr Ysgol Blynyddoedd Cynnar. Mae gan fyfyrwyr Ysgol Blynyddoedd Cynnar gyfle i fod ar leoliad a chyfle i wneud gweithgareddau sy'n berthnasol i'w hastudiaethau yn Y Gamfa Wen. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin gwybodaeth ymarferol a rhoddi damcaniaethau ar waith.
Gall myfyrwyr sydd yn rhieni neu'n ofalwyr eu hunain ddefnyddio'r Gamfa Wen fel darparwr gofal plant yn ystod eu hastudiaethau.
Y Gamfa Wen - Safwe
Cafwyd caniatad rhieni ar gyfer y delweddau o blant â ddefnyddir ar y wefan yma.

