Dull Dysgu Hyblyg
Cynigir y BA ABC i fyfyrwyr hyn sy’n gweithio gyda phlant ifainc a sydd â phrofiad helaeth o addysg a gofal blynyddoedd cynnar. Bydd y rhai ohonoch chi sy’n cael eich derbyn i’r dull hwn yn dilyn y cwrs gyda’r nos ac ar nifer penodol o ddy’ Sadyrnau mewn tymor.
Karen Pereira
Wedi Astudio’r Radd Dysgu Hyblyg
"Am 16 o flynyddoedd bûm yn gweithio mewn meysydd amrywiol yn ymwneud â gofal plant, ond er bod gennyf brofiad helaeth, fy mhrif gymhwyster yn y sector hwn oedd CGC3 mewn Gwaith Chwarae. Roeddwn eisiau parhau â’m haddysg yn y maes yma, ond gan fy mod yn gweithio’n amser llawn, roedd hyn yn anodd. Roeddwn yn hynod falch bod Coleg Prifysgol y Drindod yn cynnig y cwrs hwn drwy ddull dysgu hyblyg gan ei fod yn ddull addas iawn i ddysgwyr aeddfed (fel fi!). Mynychais ddarlithoedd gyda’r nos ddwywaith yr wythnos ac ar ambell ddydd Sadwrn gydol y cwrs tair blynedd.
Cefais flas anghyffredin ar y darlithoedd a’r astudiaeth unigol a dysgais am y damcaniaethau oedd yn sail i’r gwaith roeddwn yn ei gyflawni. Gwnes ffrindiau da sydd nawr yn gweithio ar draws y sector a byddaf yn eu gweld yn aml mewn cyfarfodydd. Rwyf yn dal i gadw mewn cysylltiad gyda’m darlithwyr.
Ar y pryd, nid oeddwn yn ystyried y byddai’r radd yn gwella fy nghyfleoedd gyrfaol, ond nawr fi yw Arweinydd Tîm Gorllewin Cymru gyda Chlybiau Plant Cymru ac ni chredaf y byddwn wedi cael y swydd hon heb fod gennyf fy ngradd Anrhydedd BA.
Rheoli a chynorthwyo ein swyddogion datblygu a’n swyddogion hyfforddiant yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Nedd Port Talbot yw fy rôl fel arweinydd Tîm Gorllewin Cymru gyda Chlybiau Plant Cymru. Mae’n ofynnol i mi fynychu cyfarfodydd mewnol ac allanol ar sail Cymru gyfan a chynnal gwaith ein Cyfarwyddwr a’n Rheolwr Cyllid yn ein Prif Swyddfa yng Nghaerdydd.
Ysgol Addysg Blynyddoedd Cynnar y Drindod a roddodd i mi'r anogaeth, y cyfle ac yna’r radd i lywio gyrfa mewn gwasanaethau plant."
Cafwyd caniatad rhieni ar gyfer y delweddau o blant â ddefnyddir ar y wefan yma.

