Myfyrwyr
Newyddion o grwpiau newydd:
Ar hyn o bryd mae gennym grwpiau yn Aberystwyth, Hwlffordd, Caerfyrddin, Merthyr, Pontypridd, Llandudno, Conwy, Caerdydd, Abertawe a Chaerffili.
Cynigir grwpiau newydd yn 2011 yn dilyn cyllid ychwanegol oddi wrth y Cynulliad yng Nghymru.
Mae Ysgol Plentyndod Cynnar yn recriwtio myfyrwyr yn Ne Dwyrain a Gogledd Dwyrain Cymru ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch yn y Gymraeg ac Ymarfer Dwyieithog yn y Blynyddoedd Cynnar (Lefel 4).

Sachau Stori
Lluniau o fyfyrwyr grŵp Caerfyrddin yn mwynhau rhannu eu sachau stori, fel rhan o aseiniad modiwl Blas ar Iaith 3.



Dyfyniadau gan fyfyrwyr
Rhesymau dros ymuno â'r cwrs
I fedru defnyddio mwy o'r Gymraeg gyda phlant bach yn y gwaith.
Rydw i'n gweithio mewn cylch chwarae Cymraeg ac angen help!
I fedru mynd nôl â'r Gymraeg i'r Feithrinfa.
Rydw i am wella'm sgiliau dwyieithog a hyrwyddo sgiliau dwyieithog drwy'r ysgol.
I wella 'ngwybodaeth a'r ffordd rwy'n ynganu'r Gymraeg wrth weithio gyda phlant bach (gan 'mod i wedi cymhwyso fe athrawes ar gyfer yr oed yma).
I fagu mwy o eirfa a hyder i weithio gyda phlant bach yn ddwyieithog.
I weithio gyda chydweithwyr i hyrwyddo dwyieithrwydd.
I ddysgu digon o Gymraeg i'w defnyddio yn yr uned asesu; i gryfhau dwyieithrwydd yn yr ysgol.
I fedru siarad â phlant Cymraeg eu hiaith yn y feithrinfa lle rwy'n gweithio.
Bendigedig!
I ddysgu sut i gynnwys y Gymraeg ym mywyd bob dydd y feithrinfa.
Sut mae'r cwrs yn mynd cyn belled?
Da iawn. Mae'r cwrs yn ymarferol iawn ac yn llawn gwybodaeth. Digon o syniadau ymhob sesiwn.
Yn help mawr. Mae'n gyfle i ymlacio a chael hwyl.
Da iawn. Mae'r tiwtor yn dda; mae'n amyneddgar ac yn esbonio'n dda.
Ardderchog. Mae'n hawdd i'w ddilyn.
Rwyn mwynhau'n fawr. Mae 'na nifer o syniadau ymarferol; ardderchog; tiwtor brwd; digon o gynnwys.
Da iawn. Addas iawn ar gyfer gweithio gyda phlant, gyda chaneuon a gêmau i ennyn diddordeb ac awydd plant i ddysgu.
Ardderchog. Hyfforddwr da, gydag adnoddau rhagorol sy'n addas ar gyfer y stafell ddosbarth; gweithgareddau da yn ystod y sesiwn a'r cyfan yn symud yn dda.
Mae'r cwrs yn werthfawr; rydw i'n mwynhau ac yn dechrau cael mwy o hyder i ddefnyddio brawddegau / ymadroddion byr.
Rwy'n dysgu llawer o'r cwrs hyd yn hyn. Rydw i wedi llwyddo i ddefnyddio peth o'r gwaith yn barod ac mae wedi bod yn help i mi fedru siarad â dau o'r plant bach sy' gyda ni sy'n siarad Cymraeg.
Mae'n symud yn dda; rwy'n gallu deall yn iawn.
Rwy'n dysgu'n ara' ond yn mwynhau.
Rhai syniadau da er mwyn gwneud y Gymraeg yn hwyl i'r plant.
Rydw i'n defnyddio nifer o'r syniadau yn y dosbarth yn barod ac yn gweld y budd.

