Gwasanaethau Ymgynghorol a Chyrsiau Byr
Mae Ysgol ABC yn cynnig ystod o wasanaethau ymgynghorol ac ymchwil sydd yn ffocysu ar anghenion y rhai hynny sy’n darparu ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn y sectorau a gynhelir a nas gynhelir. Rydym wedi bod yn ymwneud, fel ymgynghorwyr arbenigol, â datblygu systemau gwarantu ansawdd, prosiectau ymchwil penodol, ac fel ymgynghorwyr ar brosiectau chwarae tu allan, a rheolaeth canolfannau integredig.
Rydym hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau byr ar feysydd allweddol yn y blynyddoedd cynnar a’r Cyfnod Sylfaen:
- Deall a chynllunio ar gyfer chwarae
- Arsylwi ar gyfer deall dysgu cynnar
- Dysgu drwy chwarae blociau
- Dysgu yn yr awyr agored
- Hyrwyddo dwyieithrwydd drwy chwarae
- Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen
Cynigir ein gwasanaethau yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.

