Gyrfa - Astudiaeth Achos
Delyth Thomas Astudiaeth Achos
Cydlynydd Plant ag Anabledd, NCH Cymru
Roeddwn i’n un o’r rhai cyntaf i ddilyn y cwrs gradd BA ABC drwy’r Dull Dysgu Hyblyg – neu’r Flexi fel roedden ni’n ei galw. Roedd yn ffordd anodd ond gwych – doedd dim rhaid rhoi fyny fy swydd fel NNEB mewn meithrinfa i fod yn fyfyriwr amser llawn. Er ei bod yn anodd iawn ar adegau, roedd y staff yn frwdfrydig ac yn ein hannog i ddal ati.
Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, roeddwn yn magu hyder ac yn dechrau credu bod posibiliadau gyrfa arall i fi. Yn syth wedi graddio, cefais swydd gyda NCH Cymru fel gweithiwr allweddol yn cydlynu gwasanaethau i deuluoedd a phlant ag anabledd - gwaith diddorol, gwerthwheil ac yn rhoi boddhad mawr. Gofynnwyd i fi rhoi cyflwyniad yn y cyfweliad - ac roeddwn yn ddiolchgar bod yr asesiadau yn y Brifysgol wedi gofyn i fi neud yr union yr un peth dros y tair blynedd!
Rhan bwysig o’m swydd i gyda NCH Cymru yw cynnig y gefnogaeth emosiynol sydd ei angen ar y plant a’u teuluoedd. Rwy hefyd yn cynnal cyrsiau i rieni plant sydd ag anawsterau ymddygiad. Un peth pwysig iawn cefais yn ystod fy nghyfnod yn y Drindod oedd hyder – magu hyder i siarad, i drafod, i holi, i ddadlau, ac i ymchwilio.Cafwyd caniatad rhieni ar gyfer y delweddau o blant â ddefnyddir ar y wefan yma.

