Alison Rees-Edwards BA (Hons)
Manylion ar sut i gysylltu
Ysgol Plentyndod CynnarY Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Ffôn: 01267 676615 (6615)
E-bost: a.rees-edwards@ydrindoddewisant.ac.uk
Campws
Campws CaerfyrddinTeitl y Swydd
Cymrawd Cyfrwng Cymraeg Prifysgol CymruRôl yn y Brifysgol
DarlithyddCefndir
Yn syth o adael ysgol uwchradd, penderfynais fagu teulu cyn meddwl am yrfa. Tra roedd fy mhlant yn mynychu naill ai ysgol gynradd neu feithrin, astudiais gwrs BTEC Astudiaethau Datblygiad Plant yng Ngholeg Ceredigion. Cefais swydd fel NNEB mewn ysgol gynradd lle cefais brofiad o weithio gyda phlant ag anawsterau gwahanol megis dyslecsia, dyspracsia a syndrom Asperger.
Yn 2005, penderfynais ddilyn gradd BA Addysg Blynyddoedd Cynnar yma yng Ngholeg Prifysgol y Drindod fel myfyrwraig llwybr hyblyg - gweithio yn ystod y dydd ac astudio min nos. Enillais radd dosbarth cyntaf yn 2008 ac yna ymunais a’r Brifysgol fel tiwtor Geiriau Bach. Yn ddiweddar, enillais Cymrodoriaeth Addysgu Cyfrwng Cymraeg i ddarlithio gyda’r Ysgol Plentyndod Cynnar.
Diddordebau Academaidd
Mae gennyf ddiddordeb ym mhob agwedd o fywyd plentyn, ond yn bennaf rwy’n diddori mewn anghenion ychwanegol, pwysigrwydd chwarae, caffael iaith a dwyieithrwydd.Gwybodaeth bellach
Dysgu israddedig:
Datblygiad Dynol: y blynyddoedd cynnar
Sgiliau Academaidd
Plant y Byd
Y Plentyn Iach
Caffael Iaith
Cynllunio yn y Blynyddoedd Cynnar
Traethodau Hir

