Eileen Merriman BAddysg
Manylion ar sut i gysylltu
Ysgol Plentyndod CynnarY Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Ffôn: (01267) 676602 (6602)
E-bost: e.merriman@trinitysaintdavid.ac.uk
Campws
Campws CaerfyrddinTeitl y Swydd
Uwch DdarlithyddRôl yn y Brifysgol
Tystysgrif Addysg Uwch: Cymraeg ac Ymarfer Dwyieithog yn y Blynyddoedd Cynnar: Cydlynydd Rhaglen
Dysgu israddedig:
Dysgu yn yr Awyr AgoredArsylwi Datblygiad Plant
Plant y Byd
Cynllunio dysgu a’r amgylchedd chwarae
Dwyieithrwydd a Chymraeg i gychwynwyr
Ymarfer gwrth ormesol
Traethodau hir
Cefndir
Wedi hyfforddi fel athrawes blynyddoedd cynnar ym Mirmingham, bues i’n gyfrifol am ddwy uned feithrin oedd yn rhan o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd am dros naw mlynedd. Wedi dychwelyd i Sir Benfro i fyw, roeddwn yn gweithio fel athrawes cyn ymuno â staff Coleg Penfro i ddarlithio ar ystod o gyrsiau gofal plant. Roeddwn yn Gydlynydd Diploma CACHE mewn Addysg a Gofal plant. Wedi cyfnod fel darlithydd gwadd yn y Drindod, ymunais â staff Ysgol Plentyndod Cynnar yn 2002. Rwy wedi astudio dysgu yn yr awyr agored yn Nenmarc ac wedi ymuno ag ymweliadau astudio i Reggio Emilia.Diddordebau Academaidd
Maes fy niddordeb arbenigol pennaf yw dysgu yn yr awyr agored, yn benodol Addysg Ysgol y Goedwig. Rwy wedi cymhwyso fel Arweinydd Ysgol y Goedwig ac rwy’n weithgar gyda staff Addysg Ysgol y Goedwig i ddatblygu hyfforddiant lefel uwch yn y maes. Cyhoeddais erthygl yn ddiweddar yn Early Years Educator ar y gwaith hwn. Rwy’n aelod o grŵp ymchwil ar draws y Coleg sy’n edrych ar weithgareddau awyr agored yn y Cyfnod Sylfaen. Bues i’n rhan o sefydlu Trysordy, Canolfan Adnoddau ac Ailgylchu, ac rwy’n un o ymddiriedolwyr y ganolfan.
Mae gen i ddiddordeb arbennig hefyd yn narpariaeth i a dysgu plant dan 3 oed. Fi yw swyddog Cyswllt a Hyfforddi Y Gamfa Wen, meithrinfa dydd y Coleg ar gyfer 48 o blant. Rwy wedi bod yn gyfrifol am nifer o sesiynau HMS ar gyfer Awdurdodau Lleol, cyrff gwirfoddol a darparwyr preifat ar fframweithiau cynllunio ar gyfer gwaith gyda phlant dan 3 oed.

