Lleolir yr ysgol o fewn Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ar gampws Caerfyrddin.
Wrth sefydlu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ei ffurf newydd, anelir at barhau y traddodiad ac enw da yr Ysgol o fod yn un o brif ganolfannau astudiaeth Cymru ym meysydd y Celfyddydau.
Yn hanesyddol, daeth nifer fawr o raddedigion yr ysgol yn enwau amlwg yn y diwydiannau perfformio a chyfryngol.
Mae’r Ysgol fywiog hon yn cynnig ystod o lwybrau astudiaeth blaengar a heriol. Bwriad y rhaglenni astudiaeth hyn yw i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol galwedigaethol y myfyriwr wedi eu gosod ar sylfaen o astudiaeth academaidd cadarn.
Mae’n werth nodi taw dyma un o’r ychydig adrannau addysgol lle gellir dilyn llwybrau gradd arloesol yn y meysydd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r gefnogaeth a’r profiadau addysgol a gaiff ein myfyrwyr yn rai arbennig.
Ysgol y Celfyddydau Perfformio
Coleg Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
SA31 3EP
Ffôn: (01267) 676640
Ebost: TheatrCerddCyfryngau@ydrindoddewisant.ac.uk
Newyddion
Cysylltu
Ffôn: (01267) 676640
Cyfeiriad:
Ysgol y Celfyddydau Perfformio
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
SA31 3EP
Fideos

Iestyn Llwyd
Cydlynydd Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg a Chydlynydd Rhaglenni Perfformio



