Astudio yn yr Ysgol                        Follow Ysg_Celf_Perff on Twitter


Dilynwch ni ar

Lleolir yr ysgol o fewn Cyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ar gampws Caerfyrddin. Wrth sefydlu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ei ffurf newydd, anelir at barhau y traddodiad ac enw da yr Ysgol o fod yn un o brif ganolfannau astudiaeth Cymru ym meysydd y Celfyddydau. Yn hanesyddol, daeth nifer fawr o raddedigion yr ysgol yn enwau amlwg yn y diwydiannau perfformio a chyfryngol.

Mae’r Ysgol fywiog hon yn cynnig ystod o lwybrau astudiaeth blaengar a heriol. Bwriad y rhaglenni astudiaeth hyn yw i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol galwedigaethol y myfyriwr wedi eu gosod ar sylfaen o astudiaeth academaidd cadarn.

Mae’n werth nodi taw dyma un o’r ychydig adrannau addysgol lle gellir dilyn llwybrau gradd arloesol yn y meysydd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r gefnogaeth a’r profiadau addysgol a gaiff ein myfyrwyr yn rai arbennig.

Rhaglenni Astudiaeth Cyffrous a Blaengar

conjectureoftime

Amcan ein llwybrau astudiaeth yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle proffesiynol. Y bwriad yw meithrin myfyrwyr parod at waith; ond sydd hefyd yn barod i geisio creu eu cyfleon gwaith eu hunain.

Tra’n meithrin doniau a sgiliau ymarferol arbenigol ym mhrif faes astudiaeth y myfyrwyr, credir ei bod hi'n bwysig i arfogi ein myfyrwyr hefyd â sgiliau trosglwyddadwy mwy cyffredinol a allai agor drysau gyrfaol ehangach.

Y Cyswllt Personol

Dawns

Mantais amlwg adran cymharol fechan o safbwynt niferoedd myfyrwyr yw bod modd i’r myfyriwr unigol dderbyn mwy o sylw uniongyrchol gan y tiwtoriaid, ac mae staff profiadol yr Ysgol yn ymroi’n egniol i feithrin datblygiad pob unigolyn.

Ysgoloriaethau

Gall darpar fyfyrwyr geisio am nifer helaeth o Ysgoloriaethau a gynigir gan y Brifysgol er mwyn cynorthwyo â chostau eu cyfnod o astudiaeth yn y Brifysgol. Mae ysgoloriaeth sylweddol ar gael am astudio modylau drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd gall myfyrwyr ymgeisio am ysgoloriaeth adrannol Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau.

Yn ogystal, mae modd i ddarpar fyfyrwyr cynnig am ysgoloriaethau o hyd at £3,000 am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg dan adain Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd. Maent yn cynnig dwy fath o Ysgoloriaeth, sef:

Prif Ysgoloriaethau

  • £1,000 y flwyddyn am astudio o leiaf 80 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg – cyfanswm o £3000 dros dair blynedd am gyfanswm o 240 credyd.

Ceir ffurflen gais yma 

Ysgoloriaethau Cymhelliant

  • £500 y flwyddyn am astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg - cyfanswm o £1500 dros dair blynedd am astudio 120 o gredydau.

Ceir ffurflen gais yma:

Cyfeiriad:

Ysgol y Celfyddydau Perfformio
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
SA31 3EP

Ffôn: (01267) 676640

E-bost: TheatrCerddCyfryngau@ydrindoddewisant.ac.uk

Cysylltu


Ffôn: (01267) 676640


Cyfeiriad:
Ysgol y Celfyddydau Perfformio
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 
Caerfyrddin
SA31 3EP