Adnoddau
Yn naturiol bydd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn adnoddau:
- Canolfan Halliwell - Theatr lawn 200+ o seddi
- Stiwdio Ddawns a gofod Theatr/Sinema aml bwrpas
- Stiwdio radio
- Cyfarpar fideo digidol ac offer golygu
- Labordy cyfryngol ac ystafelloedd golygu
- Ystafelloedd ymarfer aml bwrpas
- Labordy Technoleg Cerddoriaeth
Yn ogystal, agorwyd Canolfan Chwaraeon ac Ystafell Ffitrwydd ar y campws, lle gall y myfyrwyr fanteisio ar yr adnoddau gwych.
Adeiladwyd Y Ganolfan Fentergarwch Diwylliannol ar y campws yng Nghaerfyrddin. Dyma gartref sefydlog Y Cwmni Theatr Cenedlaethol a nifer o gwmniau eraill sy'n ymwneud â'r celfyddydau. Mae ein myfyrwyr eisoes wedi elwa o’r cysylltiad rhwng yr Ysgol â’r cwmni. Mae'r clwstwr o gwmnïau diwylliannol tebyg yn y Ganolfan yn creu bwrlwm o weithgaredd diwylliannol a chelfyddydol cyffrous. Mae hyn o fantais nid yn unig i’r myfyrwyr ond i’r gymuned gyfagos yn ogystal.
Campws Hwylus a Chyfleus
“Os nad yw’n fawr... mae’n tyfu!”
Yn sgil sefydlu’r Brifysgol newydd, bydd nifer o adeiladau yn cael eu codi neu eu diweddaru yng Nghaerfyrddin a Llanbed. Bydd y ddau safle felly yn ganolfanau cymunedol byrlymog, a pharheir i gynnal gweithgareddau celfyddydol amrywiol a niferus. Mae’r holl weithgareddau celfyddydol allgyrsiol sy’n digwydd yn cyfrannu at gyfoeth profiad addysgiadol a chymdeithasol ein myfyrwyr.
Cyfleusterau
|
Theatr Parry |
Gofod stiwdio helaeth lle cynhelir y rhan fwyaf o'r gwaith drama ymarferol |
|
Y Theatr Fach |
Gofod hyblyg sy'n cael ei ddefnyddio fel stiwdio ddawns, stiwdio deledu ac ail ofod ymarfer |
| Neuadd Archesgob Childs | Neuadd glasurol a ddefnyddir ar gyfer gwersi canu, datganiadau ac ymarferion |
|
Labordy Cyfryngau |
Cyfrifiaduron golygu fideo, sain a gwaith animeiddio. |
| Labordy Technoleg Cerddoriaeth | Ystafell gyfrifiadurol i gyfansoddi cerddoriaeth a golygu sain/fideo. |
|
Adeilad Emyr Wyn |
Nifer o ystafelloedd ymarfer a dysgu cerddoriaeth/canu, ceir hefyd nifer o ystafelloedd golygu |
|
Ystafelloedd darlithio |
Ar gyfer sesiynau o ddysgu llai ymarferol. |

