Cyrsiau
Mae’r traddodiad o addysgu’r celfyddydau a’r cyfryngau trwy gyfrwng y Gymraeg yn un amlwg ac anrhydeddus yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac mae gan y Brifysgol enw da a phroffil uchel yn sgil y bwrlwm o weithgaredd diwylliannol a chelfyddydol sy’n digwydd yma. Er bod cynnwys yr addysg - wrth reswm - yn deillio o gyd-destun diwylliannol Cymreig, trwy gyfrwng darpariaeth yr Ysgol hon mae modd hefyd edrych allan, gan berthnasu Cymru â sefyllfa’r diwylliant Cymraeg cyfredol i gyd-destun rhyngwladol cyfoes. Er enghraifft, caiff myfyrwyr yr Ysgol gyfle i gynnig am le ar raglen astudiaeth annibynnol ryngwladol, sy’n gyfle gwych i dreulio cyfnod o astudiaeth yn yr Unol Daleithiau.
Mae pwyslais penodol yr Ysgol ar ddatblygu a hyfforddi ‘gwneuthurwyr’. Hynny yw, ymarferwyr, cerddorion, cynhyrchwyr a pherfformwyr sydd â’r gallu a’r parodrwydd i fentro’n greadigol drwy greu, datblygu ac arddangos eu gwaith ar draws sawl math o lwyfan, cyfrwng a genre.
Côd UCAS W400 - Rhaglen astudiaeth sy'n hyfforddi perfformwyr disgybledig ac aml-sgiliol (actio, canu & dawnsio)
Côd UCAS P306 - Rhaglen astudiaeth yn hyfforddi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau cyfryngol (Teledu/Radio/Ffilm & Y Cyfryngau Newydd)
Côd UCAS W390 - Rhaglen astudiaeth arloesol yn hogi sgiliau anghenrheidiol myfyrwyr sydd â'u bryd ar ddilyn gyrfa Gerddorol
Côd UCAS PW33 - Rhaglen astudiaeth sy'n gyfuniad diddorol a heriol o'r ddau faes creadigol
Côd UCAS W411 - Rhaglen astudiaeth yn hyfforddi myfyrwyr i arbenigo yng nghrefftau a chyfryngau'r actor
Tystysgrif Ôl-radd Rheolaeth Llwyfan
- Cwrs i raddedigion sy'n dymuno dilyn llwybr gyrfaol ym maes Rheolaeth Llwyfan
MA Cyfryngau Digidol
Ymateb i Fodylau
Mentergarwch a Rheoli Cyllid
“Mentergarwch….rheoli cyllid…..sefydlu busnes…. Sut mae’r modwl ‘ma’n berthnasol i fi?”
- Dyma farn rhai myfyrwyr wedi iddynt ddilyn y cwrs
Roedd Mentergarwch yn gyfle i ni ddysgu sut i ddechrau busnes.
(Rhian Jones, Y Celfyddydau Perfformio)
Profiad a oedd, ar y dechrau, i’w weld yn amherthnasol a dibwrpas, ond gyda’r holl brofiadau a gefais ar y cwrs – fe all fod o fudd mawr i mi yn y dyfodol.
(Martina Davies, Y Celfyddydau Perfformio)
Roedd y cwrs yn cynnig opsiwn da i ni os na chawn ni waith cyson. Roedd y sesiwn ‘Dragon’s Den’ yn hwyl, a dwi’n meddwl byddai’r modwl hwn o fudd i bawb – beth bynnag yw’ch maes chi.
(Carys Davies, Cerdd a’r Cyfryngau)
Roedd hi’n ysbrydoliaeth i gael clywed pobl o fyd busnes yn siarad, gan gynnig opsiwn arall, heblaw am berfformio i ni.
(Sian Price, Y Celfyddydau Perfformio)
Mae’n gyfle i ddarpar actorion feddwl am sicrhau opsiwn wrth gefn o ran gyrfa.
(Gareth Roberts, Y Celfyddydau Perfformio)
Gall cynnal gyrfa o fewn y diwydiannau perfformio, cerddorol a chyfryngol fod yn anodd, gan fod natur y gwaith a chyflogaeth yn dueddol o fod yn ysbeidiol ac anghyson. Diben y modwl hwn felly yw i sbarduno’r myfyrwyr i feddwl am syniadau i sefydlu busnes newydd a chreu eu cyfleon gwaith eu hunain.
Gallai hyn fod yn fuddiol i chi yn y dyfodol, gan y bydd gennych syniad ynghylch sefydlu seiliau busnes cadarn ac ymwybyddiaeth o reolaeth ariannol. Mae digon o help wrth law, a gwahoddir cyfres o siaradwyr gwadd o fyd busnes i fewn yn gyson i gynnig arweiniad clir ar bob agwedd o sefydlu a rhedeg busnes. Pwy a wŷr, fe allai’r modwl eich sbarduno i fod yn entrepreneur neu yn teicŵn llwyddiannus!
Cysylltu
Ffôn: (01267) 676640
Cyfeiriad:
Ysgol y Celfyddydau Perfformio
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
SA31 3EP
Fideos

Iestyn Llwyd
Cydlynydd Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg a Chydlynydd Rhaglenni Perfformio

