Don’t Stop Believing
Bu côr TCC (myfyrwyr Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau) yn cystadlu ar y rhaglen Don’t Stop Believing ar Channel 5 yn ystod mis Awst. Er na chafwyd buddugoliaeth y tro hwnnw, bu'n brofiad arbennig i'r criw i berfformio mewn stiwdio fawr ar raglen fyw a chael cyfle i gymysgu gyda rhai o enwau mwyaf adnabyddus y byd adloniant.
Llwyddiant yn y Genedlaethol
Am yr ail flwyddyn yn olynol, enillodd Lynwen Haf Roberts ar yr Unawd Allan o Sioe Gerdd i rai dros 19 mlwydd oed, gyda Gwydion Griffiths yn ail iddi. Graddiodd y ddau o’r cwrs BA Celfyddydau Perfformio yn gynharach eleni. Roedd Elen Angharad Morgan hefyd yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth adrodd. Llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd!
Cynhadledd Cyfrwng
13.05.2010 - 14.05.2010 Cynhadledd Cyfrwng
Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol CYFRWNG yma ar gampws Coleg Prifysgol y Drindod yn mis Mai. Lleisiau/Voices oedd thema'r gynhadledd, a bu nifer o siaradwyr gwadd a chyfranwyr o'r diwydiannau cyfryngol yn traethu a chyd-drafod mewn ystod o sesiynau amrywiol yn ystod y gynhadledd ddeuddydd, gan gynnwys darlith gyweirnod gan Iona Jones - Prif Weithredwr S4C.
Heb ei Fai...
Teithiodd sioe gerdd ddiweddaraf yr Ysgol Heb ei Fai... i sawl lleoliad yng Nghymru ddiwedd mis Mawrth. Roedd Heb ei Fai yn ddrama gerdd newydd sbon a ysgrifennwyd yn arbennig i'r Ysgol gan Ceri Elen ac Eilir Owen Griffiths (sydd hefyd yn un o diwtoriaid cerdd yr Ysgol). Roedd y sioe wedi'i gosod yn ardal dociau Caerdydd - Tiger Bay - yn 1910, ac yn olrhain hanes nifer o lofruddiaethau gwaedlyd sy'n digwydd yno. Cydweithiodd myfyrwyr yr 2il a'r 3edd flwyddyn ar y cynhyrchiad hwn, gan gymryd cyfrifoldeb am ystod llawn o sialensau llwyfannu sioe gerdd ar daith: o berfformio ar y llwyfan i chwarae'n y band; ac o weithredu'r sain a'r goleuadau i greu ymgyrch farchnata. Daeth y daith i ben mewn lleoliad addas iawn - sef Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd.
Enwebiadau Gwobrau Ffresh
Daeth nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr Ysgol Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau i'r brig yng nghystadleuaeth Gwobrau Ffresh eleni. Dyma gystadleuaeth cenedlaethol sy'n dathlu gwaith myfyrwyr sy'n astudio o fewn y meysydd cyfryngol yng Nghymru. Enwebwyd tri ffilm gan fyfyrwyr yr Ysgol yn y categori i waith yn y Gymraeg, sef:
- ffilm fer Gareth Wyn Roberts Lyci Nymbar Nain,
- ffilm ddogfen Carys Davies, Sian Elin Evans a Nia James Bwrw Gwreiddiau.
- rhaglen ddogfen Catrin Newman Gwenwyn y Geiriau
2009
Llwyddiant yn y Genedlaethol
Cafodd sawl un o'n myfyrwyr presenol a'n cyn-fyfyrwyr lwyddiant yng nghystadleuthau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala. Ennillodd Huw Bryant gystadleuaeth Cyflwyniad Digri; Unigol, gyda Mari Emlyn un o'n cyn-fyfyrwyr yn 3ydd yn yr un gystadleuaeth. Enillodd Lynwen Haf Roberts ar yr Unawd Allan o Sioe Gerdd i rai dros 19 mlwydd oed, gyda Mared Elliw Huws un arall o'n cyn-fyfyrwyr yn ail iddi. Daeth Steffan Parry yn 3ydd ar y gystadleuaeth Adrodd Unigol 19-25oed, tra enillodd Gwydion Rhys gystadleuaeth Gwobr Goffa Richard Burton ynghyd ag Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts ar sail ei berfformiadau ar y nos Fercher. Cafodd brawd Gwydion, Trystan Griffiths (a raddiodd o'r Ysgol llynedd) hefyd lwyddiant ar gystadleuaeth Y Gân Ffrengig 19-25 oed, gan fynd yn ei flaen i ennill Gwobr Goffa Osbourne Roberts. Llongyfarchiadau mawr iddynt i gyd!
Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Bu dau o fyfyrwyr yr Ysgol yn cystadlu am wobr Ysgoloriaeth Bryn Terfel yng Nghanolfan y Mileniwm yn ddiweddar ar ôl iddynt ennill cystadleuthau perfformio yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.
Cychwynodd Gwydion Rhys (enillydd yr Unawd Allan o Sioe Gerddorol 19 - 25) ar ei flwyddyn olaf o astudiaeth ar y cwrs BA Celfyddydau Perfformio yn mis Medi. (Daeth dau o gyn fyfyrwyr yr Ysgol yn ail a thrydydd iddo yn yr un gystadleuaeth sef Glesni Fflur a Laura Blundall).
Yr ail fyfyriwr oedd Lisa Marged sy'n hanu o Nantycaws, yn dilyn ennill y gystadleuaeth Cyflwyniad Theatrig Unigol 19 - 25 oed. Graddiodd Lisa gyda gradd Dosbarth 1af eleni ar gwrs BA Yr Actor a'r Celfyddydau.
Criw Rio Grande 2009 yn dychwelyd
Yn ddiwedar dychwelodd 11 o fyfyrwyr yr Ysgol yn ôl o'r Unol Daleithiau wedi treulio cyfnod o 5 mis yn astudio ym Mhrifysgol Rio Grande - Ohio. Yn y blynyddoedd diweddar, ffurfiodd yr Ysgol bartneriaeth gyda'r Brifysgol yn Rio Grande, sy'n galluogi ein myfyrwyr i dreulio cyfnod o astudiaeth yno drwy geisio am le ar ein modwl Astudiaeth Annibynnol Rhyngwladol ac sy'n rhan o gynllun gradd myfyrwyr yr 2il flwyddyn. Roedd modd i'r myfyrwyr ddilyn gwersi perthnasol i'w meysydd astudiaeth yn Rio Grande. Fe gafwyd cyfle hefyd i deithio cynhyrchiad theatr dyfeisiedig - 'Lonesome Valley' - dan gyfarwyddyd Dr. Greg Miller mewn nifer o leoliadau yn Ohio ynghyd â pherfformiadau yn Efrog Newydd fel rhan o ŵyl Wales Week
Clymau
Cafwyd taith llwyddiannus o sioe gerdd yr Ysgol yn gynharach eleni sef gwaith a gomisiynwyd gan Ceri Elen - un o dalentau ysgrifennu diweddaraf Cymru - ar y cyd â un o diwtoriaid cerdd yr Ysgol Eilir Owen Griffiths. Llwyfannwyd y cynhyrchiad mewn nifer o leoliadau ar draws y wlad yn ystod mis Chwefror, a chafwyd addasiad ohono ei berfformio gan y myfyrwyr yn The Procucer's Club II, Broadway - fel rhan o ddathliadau gŵyl 'Wales Week' yn Efrog Newydd. Mae'r stori wedi'i seilio yn fras ar hanes y dywysoges Siwan - gwraig Llywelyn Fawr - a'i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Fodd bynnag, fe'n cyflwynwyd hefyd i nifer o gymeriadau lliwgar eraill oedd yn rhan o Lys Llywelyn. Roedd yn stori am obaith ac anobaith, ac - wrth gwrs - yn stori am gariad.
Y Côr Yn Washington
Cynhaliwyd Gwyl Werin y Gymdeithas Smithsonian yn Washington yn ddiweddar. Diben yr Wyl yw i ddathlu diwylliant gwlad arbennig bob blwyddyn, ac yn 2009 canolbwyntiwyd ar Gymru a’n diwylliant. Roedd yn ddigwyddiad arbennig a fu'n gyfle i ddathlu y celfyddydau a thraddodiadau Cymreig. Rai misoedd yn ôl fodd bynnag, derbyniodd yr Ysgol wahoddiad i gymryd rhan yn lansiad yr Wyl a ddigwyddodd ar adeg Dydd Gwyl Dewi. Cafodd ein myfyrwyr brofiadau bythgofiadwy wrth ganu detholiad o gerddoriaeth gyfoes a thraddodiadol Gymreig ger bron gwleidyddion a phwysigion yn y Llysgenhadaeth Brydeinig yn nWashington gan gynnwys Prif Weinidog Cymru - Rhodri Morgan.
2008
Myfyrwyr y Drindod yn hyrwyddo doniau Cymru yn Efrog Newydd
Aeth myfyrwyr yr Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau i’r Unol Daleithiau am brofiad bythgofiadwy wrth gymryd rhan yn nathliadau Cymru yn Efrog Newydd a drefnir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddathlu celf, diwylliant a busnes Cymreig.
Tra yno, llwyfanwyd ‘New Worlds’, sef drama a ysgrifennwyd ganddynt ar y cyd â'r dramodydd a'r cyfarwyddwr Ian Rowlands. Seiliwyd y ddrama ar hanesion dau deulu o Gilcennin, Gorllewin Cymru rhwng 1818 a 1861. Gan ddisgrifio’r cyd-destun hanesyddol, meddai Ian “Tra gwnaeth un teulu eu cartref yn y Byd Newydd dros yr Iwerydd, symudodd y teulu arall i Fyd Newydd diwydiannol De Ddwyrain Cymru. Roedd y ddrama yn canolbwyntio ar stori dau gariad sy’n cael eu rhannu gan gefnfor, ond a barhaodd yn ffyddlon i’w gilydd. Roedd y sioe gyflym, gorfforol hon yn ddisgrifiad teimladwy o ddau gariad a berfformiwyd yn erbyn darnau cerddorol o emynau Cymreig a cherddoriaeth werin Americanaidd”.
Perfformiwyd New Worlds gyntaf yn y Producers’ Club II yn Efrog Newydd yn ystod dathliadau Cymru yn Efrog Newydd ddiwedd mis Chwefror '08. Tra yn Efrog Newydd ymunodd criw arall o’u cyd-fyfyrwyr yn y Drindod â’r actorion er mwyn ffurfio Côr Siambr y Drindod dan arweiniad Euros Rhys Evans ac Eilir Owen Griffiths. Yn ystod yr wythnos perfformiodd y côr: yng Nghapel St Paul, Wall Street yn y digwyddiad Saint George meets Saint David; mewn noson Gymreig gyda’r awduron adnabyddus Paul Henry ac Owen Sheers; yn Nerbyniad Coctêl Flynyddol Dydd Gŵyl Dewi gyda Caryl Parry Jones a’r band, ynghyd â pherfformiad amser cinio yn adeilad y Chrysler Building – cartref Y Cynulliad Cymreig yn Efrog Newydd. Cafwyd rhywfaint o amser i ymlacio fodd bynnag pan aeth y criw i weld cynhyrchiad y sioe Sunday in the Park with George ar Broadway, a chael cyfle i gyfarfod seren y sioe Daniel Evans yn y VIP lounge wedi’r perfformiad.
Efrog Newydd
Mae cynlluniau ar y gweill eleni eto i geisio sicrhau y caiff rhai o’n myfyrwyr gyfle i berfformio yn Efrog Newydd. Llynedd aeth myfyrwyr yr Ysgol i’r Unol Daleithiau a chael profiad bythgofiadwy wrth gymryd rhan yn nathliadau Wythnos Cymru yn Efrog Newydd a drefnir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddathlu celf, diwylliant a busnes Cymreig.
Tra yno, llwyfannwyd ‘New Worlds’, sef drama a ysgrifennwyd gan y myfyrwyr ar y cyd â’r dramodydd a’r cyfarwyddwr Ian Rowlands. Roedd y ddrama yn olrhain hanesion dau deulu o Gilcennin, Gorllewin Cymru a ymfudodd i’r Unol Daleithiau rhwng 1818 a 1861, gan ymgartrefu yn nhalaith Ohio.
Cafodd New Worlds ei pherfformio gyntaf off-Broadway yn y Producers’ Club II yn Efrog Newydd ddiwedd mis Chwefror. Tra yn Efrog Newydd ymunodd criw o’u cyd-fyfyrwyr â’r actorion er mwyn ffurfio Côr Siambr y Drindod, dan arweiniad Eilir Owen Griffiths ac Euros Rhys Evans. Rhoddwyd perfformiadau mewn nifer o leoliadau trawiadol yn y ddinas, gan gynnwys yr Adeilad Chrysler a Chapel St Paul, Eglwys y Drindod, Wall Street. Saif yr Eglwys dafliad carreg oddi wrth Ground Zero, ac i’r eglwys hynafol yma y cludwyd cyrff y rhai a fu farw yn ystod yr ymosodiad ar 9/11. Gadawodd y profiad o berfformio darnau megis ‘Tangnefeddwyr’ yn y Capel arbennig hwnnw argraff ddofn ar nifer o’r myfyrwyr a’r gynulleidfa.
Er iddynt gael wythnos hynod o brysur yn perfformio, fe gafwyd cyfle hefyd i ymlacio rhywfaint wrth fynd i weld perfformiad o’r sioe gerdd Sunday in the Park with George gyda’r actor o’r Rhondda Daniel Evans yn y brif rhan. Yn ffodus, llwyddodd Daniel i drefnu bod ystafell VIP y theatr ar gael er mwyn gallu cyfarfod y myfyrwyr am sgwrs wedi’r perfformiad. Elwodd y myfyrwyr yn fawr wrth gyfarfod yr actor a chlywed ei gynghorion.
Myfyrwyr yn cael profiad o ddigwyddiadau byw
Ymwelodd myfyrwyr yr Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau â set rhaglen wleidyddol S4C Pawb a’i Farn gan gwrdd â’r staff a’r cyflwynydd Dewi Llwyd. Yn ogystal cymeron nhw ran yn narllediad byw y rhaglen o Gaerfyrddin. Yn ystod yr wythnos fe fu BBC Radio Cymru yn yr ysgol yn cynnig gweithdy sgiliau technegol, cynhyrchu a chyflwyno yng nghwmni Maggie Dodd, a Glyn Wise o Big Brother. Darlledwyd deunydd o'r gweithdy ar wasanaeth C2 Radio Cymru."
Creu cyffro yn y Eisteddfod yr Urdd
Pan aeth swyddogion Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr draw i’r Drindod i holi a fyddai modd dod â rhywbeth newydd, lliwgar a chyffrous i’r maes, fe neidiodd y myfyrwyr ar y cyfle.
“Roedden ni’n licio’r syniad yn fawr,” meddai Rheon Lligwy Williams o Fangor, un o’r criw a fu’n perfformio ar y maes drwy’r wythnos.
“Mae theatr y stryd yn rhan o’n cwrs yn y Coleg ac roedden ni’n meddwl y byddai hynny’n ffordd dda o ddenu cynulleidfa – fel sy’n digwydd yn Covent Garden neu ar y Ramblas yn Barcelona.”
Felly, drwy’r wythnos fe fu 12 o ddosbarth blwyddyn gyntaf y cwrs Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau yn crwydro’r maes yn jyglo, yn meimio gan ddefnyddio drychau neu’n sefyll yn stond fel delwau.
Roedd ganddyn nhw wisgoedd arbennig – rhai fel doliau robotaidd, eraill, gan gynnwys Rheon, mewn coch i gyd.
“Roedd dau ohonon ni fel rhyw ‘double act’ ac yn goch o’n corun i’n sawdl – dillad coch, colur coch ... bob dim yn goch ac roedd yr ymateb yn wych.”
Roedd yr Eisteddfod hefyd yn chwilio am ddawns newydd ar gyfer seremoni’r Fedal Ddrama ac unwaith eto roedd myfyrwyr y Drindod yn awyddus i helpu.
“Mi gawson ni drafodaeth dda a phenderfynu ein bod am wneud rhywbeth hollol wahanol i’r dawnsio gwerin arferol.
“Rydan ni’n astudio dawns fel rhan o’r cwrs ac roedden ni am ddefnyddio rhai o’r elfennau hynny yn y ddawns – Stryd, Hip Hop a Robotics.
“Hefyd fe benderfynodd y gr[p ddefnyddio masgiau – syniad a gododd wrth i ni astudio Theatr Groeg yn y coleg.”
Roedd y ddawns masgiau, fel y perfformiadau byrfyfyr ar y maes, yn llwyddiant ysgubol: “Gawson ni lot o sylw ar y cyfryngau a chael perfformio o flaen cynulleidfa anferth yn y pafiliwn.
“Ar yr un pryd, roedden ni’n dysgu llawer ac roedd y ddau brosiect yn cael eu marcio a’u hasesu fel rhan o’n gwaith cwrs.”


