Yn ymateb i anghenion Cymru a’i phobl, ein cenhadaeth yw i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg drwy gyfrwng addysgu, hyfforddiant ac ymchwil o fewn cyd-destunau galwedigaethol amrywiol.

2 happy students Gwelir hyn yn eglur o’r ystod o gyrsiau a gynigiwn, sy’n cynnwys MA mewn Astudiaethau Dwyieithrwydd, tystysgrif a diploma mewn Cyfathrebu Proffesiynol ac amryw ddewisiadau ar gyfer y rheiny sy’n dysgu’r iaith ar bob lefel.

Cynigir darpariaeth ryngweithiol ar-lein yn ogystal â chyrsiau dosbarth ar draws Sir Gaerfyrddin, ynghyd â nifer o gyrsiau iaith preswyl a chyrsiau isdeitlo ar gampws Llambed

 Yn allweddol i waith yr Ysgol yw CAIACh, y Ganolfan Astudiaethau Iaith, Addysg a Chymuned a grëwyd mewn partneriaeth a IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith.  Yn adeiladu ar gryfderau a phrofiadau’r ddau bartner cynigia’r Ganolfan newydd hon wasanaeth arbenigol fydd yn diwallu anghenion addysg a hyfforddiant y maes cynllunio iaith yng Nghymru.

Students walking through campusMae hyrwyddo ein hetifeddiaeth Gymreig mewn cyd-destun byd- eang yn elfen holl bwysig arall o waith yr Ysgol ac mae ein gradd MA mewn Astudiaethau Celtaidd a ddysgir o bell yn denu myfyrwyr o bob cwr o’r byd. Bydd y radd boblogaidd, MA mewn Astudiaethau Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd hefyd ar gael drwy ddulliau dysgu o bell ym 2011.

Mae nifer gynyddol o fyfyrwyr MPhil PhD yn yr Ysgol ac mae’r staff yn adnabyddus am eu cyhoeddiadau ar yr iaith Gymraeg a’n cefndir diwylliannol a llenyddol ac yn awdurdodau cydnabyddedig yn eu priod feysydd.

Lleolir nifer o Wasanaethau Cymraeg o fewn yr Ysgol, gan gynnwys yr Gwasanaeth Cyfieithu sefydliadol a gwasanaeth arolygu'r Cynllun Iaith Gymraeg.

Mae ein portffolio academaidd nodedig ac unigryw’n mynd o nerth i nerth a bwriadwn ei ddatblygu ymhellach, yn rhannol drwy bartneriaethau agos gyda cholegau addysg bellach, asiantaethau a mudiadau lleol. Drwy ein hystod eang o gyfleoedd dysgu a hyfforddiant, edrychwn ymlaen at wneud cyfraniad sylweddol tuag at greu Cymru ddwyieithog.

Dr Christine Jones

Pennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd
Ffôn: (01570) 424931
E-bost: c.m.jones@ydrindoddewisant.ac.uk

Dihareb yr wythnos


Un celwydd yn dad i gant.


One untruth often leads to a string of lies, or as this
Welsh proverb literally states: one lie is the father of a hundred lies.

Cysylltwch â ni

Dr Christine Jones
Ffôn: (01570) 424931
E-bost: c.m.jones@ydds.ac.uk

 

Cwrs Cymraeg i Ddechreuwyr a Chwrs Gloywi Iaith

 

Cwrs yr Haf 2012
18 - 22 Mehefin 2012

 

Cwrs Gloywi Iaith Haf 2012
18 - 22 Mehefin 2012

Newyddion