Uned Gyfieithu
Mae’r gwasanaeth cyfieithu yn cynnig neu yn trefnu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg > Saesneg a Saesneg > Cymraeg i holl staff academaidd a gweinyddol y Brifysgol fel a ganlyn:
- Cyfieithu agendau, cofnodion a phapurau ar gyfer pwyllgorau’r Brifysgol, byrddau a chyfarfodydd Uned/Ysgol/Cyfadran ac adolygiadau blynyddol/pum mlynedd yn ôl y gofyn
- Cyfieithu ar y pryd ym mhob un o’r uchod yn ôl y gofyn
- Cyfieithu nodiadau, cyflwyniadau PowerPoint a thaflenni ar gyfer darlithoedd
- Cyfieithu polisïau sefydliadol, deunydd marchnata a thudalennau gwe
- Gwirio gwaith mae staff wedi ei gyfieithu eu hunain
Mae cyfieithwyr y Brifysgol yn blaenoriaethu gwaith yn ôl y dyddiad cwblhau, felly mae’n bwysig iawn cynnwys dyddiad ar bob darn o waith a anfonir.
I wneud cais am waith cyfieithu ysgrifenedig neu wasanaeth cyfieithu ar y pryd dylid e-bostio dogfennau electronig at: cyfieithu-translation@ydds.ac.uk
Dylid anfon copïau caled nad ydynt ar gael yn electronig at Andrew Currie
Mr. Andrew Currie
Ffôn: 01267 676846
E-bost: a.currie@ydrindoddewisant.ac.uk

