Newyddion
15.05.2012 Mark yn cyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn
20.03.2012 Darlith Goffa Tucker 2012
17.02.2012 Myfyriwr y Drindod Dewi Sant ar ras i Antarctica
19.01.2011 Ysgolhaig o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd yn Trafod Seintiau Cymru ar Radio Wales
22.12.2010 Dr Meirion Pennar, 1944-2010
13.10.2010 Cynhadledd Ryngwladol Y Sefydliad dros Ieithoedd mewn Perygl (Foundation for Endangered Languages)
25.08.2011 Cyn fyfyriwr yn ysgrifennu llyfr mewn Japaneg ar gyfer dysgwyr Cymraeg!
Y gyfrol Gymraeg gyntaf i gael ei hyrwyddo gan Book Drum!
Cyrhaeddodd Y Mabinogion, sef diweddariad Dr Rhiannon Ifans o’r chwedlau canoloesol Cymraeg, hafan gwefan Book Drum. Dyma’r unig gyfrol mewn iaith ar wahân i’r Saesneg sydd ar y wefan hon, a chafodd Y Mabinogion le blaenllaw arni.
Gwefan lyfrau yw Book Drum lle ceir cloddfa gyfoethog o wybodaeth am lyfrau o bob math, adolygiadau, clwb darllen, a hefyd fap llenyddol rhyngweithiol. Mae pob proffil llyfr yn unigryw, yn rhoi crynodeb
o’r gyfrol, manylion am yr awdur, cefndir y gyfrol, a pham y dylech ei darllen.
Lluniwyd proffil Y Mabinogion gan Siân Cleaver, sydd wedi crynhoi casgliad trawiadol o wybodaeth gefndirol, lluniau a mapiau i ddarlunio a dehongli’r gyfrol.
I weld proffil Y Mabinogion ar Book Drum ewch i Book Drum

