Newyddlenni

Cylchlythyr Haf 2011 (pdf)

Croeso i gylchlythyr Haf 2011 Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn ymateb i anghenion y Gymru gyfoes, mae ein cenhadaeth yn cynnwys hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a dealltwriaeth o'n diwylliant a'n hanes drwy gyfrwng addysgu, ymchwil a hyfforddiant.

Staff

Cyrsiau

Cyrsiau Cymraeg Dwys Llambed

Bydd Cwrs Cymraeg Dwys nesaf ar gampws Llambed yn y Gwanwyn 2012.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Gwen Davies:

E-bost:  g.j.davies@ydds.ac.uk

Ffôn:  01570 424898

Cyrsiau Cymraeg i Oedolion Sir Gaerfyrddin

MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd

 

Cynhadledd Ryngwladol Y Sefydliad dros Ieithoedd mewn Perygl

Cynhadledd yw hon a gynhelir yn flynyddol mewn mannau gwahanol ar draws y byd gan gynnwys, yn y gorffennol, De'r Affrig, Tajikistan, yr Unol Daleithiau a gwledydd Ewrop. Fe'i cynhelir yn Ecwador yn 2011.

Cynhaliwyd y gynhadledd eleni ar gampws Caerfyrddin Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn ystod mis Medi a’r trefnydd oedd Dr Hywel Glyn Lewis o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd. Mynychwyd y gynhadledd gan arbenigwyr ym maes ieithyddiaeth- gymdeithasol o bob cwr o'r byd gan gynnwys Awstralia, Tsiena a'r Unol Daleithiau. Thema'r gynhadledd oedd Gwrthdroi Dyfudiad Iaith, ac fe draddodwyd papurau yn y maes gan nifer fawr o academyddion a gynrychiolai sefyllfaoedd ar draws y byd lle'r oedd perygl y gallai ieithoedd farw oni bai bod cynllunio bwriadol ar eu cyfer. Y siaradwyr gwadd oedd Yr Athro Jane Simpson o Awstralia, Dr Conchur O Giollagain o Iwerddon a'r Athro Glyn Williams o Gymru. Trefnwyd ymweliadau hefyd ag ysgolion cyfrwng-Cymraeg lleol, sef Ysgol y Dderwen ac Ysgol Bro Myrddin, lle cafodd y cynadleddwyr brofiad o lwyddiant addysg cyfrwng Cymraeg, a bu hwnnw hefyd yn ysbrydoliaeth iddynt ar gyfer ymdrechu i sicrhau yr un llwyddiant yn eu cyd-destunau ieithyddol gwahanol.

Bu canmoliaeth fawr i lwyddiant addysgol ac ieithyddol addysg Gymraeg, ond cawsant hefyd flas o lwyddiant allgyrsiol y gyfundrefn honno mewn cyngherddau byrion a gynhaliwyd ar eu cyfer gan ddwy ysgol Gymraeg uwchradd, sef Ysgol y Strade ac Ysgol Bro Myrddin.

Cafodd y gynhadledd gyhoeddusrwydd eang gan y cyfryngau, megis gwefan newyddion y BBC, gyda'r Cadeirydd a'r Llywydd yn cael eu cyfweld ar amryw raglenni radio, gan gynnwys Radio Cymru, Radio Wales, PM yn Llundain a rhaglen radio yn Awstralia.

Y farn yn gyffredinol oedd mai hon oedd un o'r cynadleddau mwyaf llwyddiannus, nid yn unig oherwydd y croeso twymgalon a roddwyd gan y Brifysgol i'r cynadleddwyr, ond hefyd oherwydd y modd y dangoswyd sut y gall y gyfundrefn addysg Gymraeg gynnig arweiniad ac ysbrydoliaeth  i wledydd eraill yn y broses o gynllunio ieithyddol.

Essential Welsh Grammar / Complete Welsh

Complete Welsh Teach Yourself Welsh Ym mis Hydref lansiwyd Essential Welsh Grammar a The Complete Welsh Course, dau lyfr i ddysgwyr y Gymraeg a ysgrifennwyd gan Dr Christine Jones. Cyhoeddwyd y ddau lyfr gan Hodder Education.

Gan fod y rhan fwyaf o gyrsiau a llyfrau gramadeg a gyhoeddwyd yn y pymtheng mlynedd diwethaf yn canolbwyntio ar yr iaith lafar, mae'n bleser gweld cyhoeddiad sy'n cyflwyno ac yn esbonio strwythurau'r iaith ysgrifenedig ochr yn ochr â'r iaith lafar mewn un gyfrol. Dyw hi ddim yn hawdd i ddysgwyr sy'n fwy cyfarwydd â phethau fel "ces i ngeni" adnabod pryd, ac yn enwedig sut, i ddefnyddio ffurfiau fel "fe'm ganwyd". Mae dealltwriaeth a meistrolaeth o holl amrediad cyweiriau'r iaith yn hanfodol i bawb sydd am ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol, a dyma'r unig gyfrol yn Saesneg sy'n cynnig yr amrediad hwn. Archebais i Teach Yourself Essential Welsh Grammar yn syth ar gyfer y swyddfa. - Yn ôl R. N. Smith o'r cwmni Intexta: (www.intexta.com)

MA Astudiaethau Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd

Yn cofrestru yn 2011 yn Chwefror a Medi:

A hoffech ddysgu mwy am ieithoedd, hanes a llenyddiaeth y rhanbarthau Celtaidd?

Os felly, beth am gofrestru ar ein rhaglen MA unigryw a ddysgir o bell?

  • cymhwyster ôl-raddedig sy’n caniatáu i chi astudio yn eich cartref eich hunan wrth eich pwysau eich hunan;
  • cynllunnir y modylau diddorol gan ddarlithwyr profiadol sy’n arbenigo yn eu priod feysydd;
  • anfonir pecynnau astudio atoch yn y post a bydd tiwtor personol yn rhoi cyfarwyddyd i chi’n gyson trwy e-bost;
  • ceir ystod eang o gyrsiau ieithyddol, hanesyddol a llenyddol.

Am ragor o fanylion am y cwrs cysyllter â
Dr Jane Cartwright - j.cartwright@ydrindoddewisant.ac.uk

Coflith

Dr Meirion Pennar, 1944-2010

Bu farw’r bardd a’r academydd, y Dr Meirion Pennar yn 65 oed yn ei gartref yn Abertawe.

Yn un o bump o blant, roedd yn fab i’r diwinydd a llenor adnabyddus, y diweddar Dr Pennar Davies.

Mae’n gadael un mab, Gwri Pennar, a fagwyd yn Llandysul ac yn Abertawe ac sydd bellach yn byw yn Llundain.

Yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan am 18 mlynedd, roedd ei feysydd arbenigol yn cynnwys barddoniaeth yr oesoedd canol a nofelau’r 19eg ganrif.

Ganed yng Nghaerdydd, magwyd ym Mangor, Aberhonddu ac yn Abertawe. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe gan raddio ag anrhydedd, Cymraeg, ac yn fyfyriwr ymchwil yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.

Bu’n ddarlithydd yn y Gymraeg yn Nulyn, yna yn 1975 cymerodd swydd fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Llanbed.

Bu’n byw yng Ngheredigion am flynyddoedd lawer, gan gynnwys Llandysul ac Adpar, Castellnewydd Emlyn cyn symud i Abertawe i ofalu am ei fam oedrannus a brawd iau, Geraint yn y degawd a mwy diwethaf.

Roedd y Dr Meirion Pennar yn adnabyddus fel bardd vers libre arbrofol a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi, Syndod y Sêr a Pair Dadeni a dwy gerdd hir ‘Saga’ a’r ‘Gadwyn’. Fe gyhoeddodd nifer o erthyglau ar lenyddiaeth Cymru mewn ystod o gyfnodolion.

Fe ddaeth yn adnabyddus fel cyfieithydd rhai o hen glasuron i’r Saesneg ac fe gyhoeddwyd dau o’i gyfieithiadau gan wasg Llanerch Press.

Mae’r cyfieithiadau o Gerddi Taliesin a Llyfr Du Caerfyrddin, sef Taliesin Poems a The Black Book of Carmarthen yn dal ar gael ac yn boblogaidd o hyd.

Mae cyfieithiad o ran o Lyfr Du Caerfyrddin i’w weld ar wal marchnad newydd tre’ Caerfyrddin, ynghyd a’r dyfyniad Cymraeg.

Roedd yn ymgyrchydd iaith a gwleidyddol adnabyddus yn y 1970au, yn weithredol yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, colofnydd gwleidyddol yn Y Ddraig Goch 1983–85 ac yn ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yng Ngorllewin Abertawe.