Dr Jane Cartwright BA, PhD

Manylion ar sut i gysylltu

Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd
Y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant
Ffôn: (01570) 424870 (4870)
E-bost: j.cartwright@ydrindoddewisant.ac.uk

Campws

Campws Llambed

Teitl y Swydd

...

Rôl yn y Brifysgol

Y mae'r Dr Jane Cartwright yn Ddarllenydd a Chydlynydd y radd MA mewn Astudiaethau Celtaidd. Mae'n darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ac yn cyfarwyddo ymchwil ar ystod eang o bynciau ym maes hanes, crefydd a llên Cymru.

Y mae'i phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys hanes crefydd yng Nghymru'r Oesoedd Canol, cwlt y Forwyn Fair, hanes lleiandai Cymru, testunau am wyryfdod a hanes y seintiau Celtaidd. Y mae'n un o'r prif ysgolheigion sy'n gweithio ym maes bucheddau'r seintiau a sancteiddrwydd benywaidd ac ymhlith ei chyhoeddiadau ceir Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod (Caerdydd, 1999), Celtic Hagiography and Saints' Cults (Caerdydd, 2003) a Feminine Sanctity and Spirituality in Medieval Wales (Caerdydd, 2007)