Ymchwil
MPhil/PhD
Beth yw PhD?
Darn sylweddol o ymchwil wreiddiol yw PhD. Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau traethawd 80,000-100,000 o eiriau dros gyfnod o dair blynedd (neu fwy na hynny pe baent yn cofrestru’n rhan amser). Y mae pobl yn dewis gwneud ymchwil am amryw o resymau, er mwyn datblygu eu gyrfa ymhellach neu oherwydd bod ganddynt ddiddordeb personol yn y pwnc dan sylw. Y cam cyntaf yw cysylltu â’r Ysgol i drafod eich diddordebau ymchwil, cymwysterau a’ch profiad blaenorol. Rhoddir cyfarwyddyd i chi ynglŷn ag addasrwydd y pwnc a’r broses o baratoi crynodeb o’r prosiect arfaethedig. Ni ddylai’r disgrifiad hwn fod yn hwy na 500 o eiriau a dylech nodi’ch methodoleg a theitl yr ymchwil. Bydd ysgolhaig profiadol yn cyfarwyddo’ch gwaith ymchwil ac yn cwrdd â chi’n aml i drafod eich traethawd. Anogir myfyrwyr i fynychu seminarau ymchwil a drefnir gan y Brifysgol, yn ogystal â chynadleddau perthnasol, ond ni fyddwch yn mynychu unrhyw ddosbarthiadau penodol. Y mae gan staff yr Ysgol ddiddordeb ac arbenigedd mewn amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys:
- Tafodieitheg
- Cymdeithaseg Iaith
- Addysg ddwyieithog
- Cynllunio Ieithyddol
- methodoleg dysgu ail iaith
- y chwedl Arthuraidd
- llên gwerin
- hanes menywod yng Nghymru
- etifeddiaeth ddiwylliannol
- barddoniaeth a rhyddiaith yr Oesoedd Canol
- bucheddau’r seintiau
- testunau crefyddol a hanes yr eglwys
Beth yw MPhil?
Darn o ymchwil wreiddiol yw MPhil. Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau traethawd 50,000-60,000 o eiriau dros gyfnod o rhwng blwyddyn a thair blynedd (neu fwy na hynny pe baent yn cofrestru’n rhan amser). Dewis ardderchog yw MPhil ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gymwys i gofrestru ar gyfer PhD yn syth, neu fyfyrwyr sydd am wneud ymchwil yn hytrach na dilyn cwrs a ddysgir trwy gyfrwng darlithiau yn y coleg. Unwaith eto bydd ysgolhaig profiadol yn cyfarwyddo’ch gwaith ymchwil ac yn cwrdd â chi’n aml i drafod eich traethawd.
A yw’r cymwysterau priodol gennyf?
Nid yw’ch oedran yn bwysig, ond fel arfer disgwylir bod gan fyfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer PhD radd MA’n barod (neu radd dda yn y Gymraeg neu bwnc perthnasol o leiaf). Os nad oes gennych gymhwyster MA, neu os nad ydych yn teimlo’ch bod yn barod i wneud ymchwil ar lefel PhD, gellwch gofrestru ar gyfer MPhil yn y lle cyntaf ac ystyried uwchraddio i PhD (gyda chaniatâd y Brifysgol) ar ôl blwyddyn neu ddwy. Yn wir, y mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yr Adran yn cofrestru ar gyfer MPhil yn y lle cyntaf.
Faint yw’r gost?
Y mae’r ffioedd yn newid bob blwyddyn ac yn dibynnu a ydych yn fyfyriwr sy’n byw yn y Deyrnas Unedig/Ewrop neu wlad tramor.
Pryd y medrwn ddechrau?
Gall myfyrwyr gofrestru ym mis Ionawr, Ebrill neu fis Hydref, ond anogir myfyrwyr i wneud ymholiadau ynglŷn ag ymchwil ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Cysyllter â Dr Jane Cartwright (j.cartwright@ydrindoddewisant.ac.uk) yn y lle cyntaf os oes gennych ymholiad (1570) 424870. Bydd angen i chi lunio disgrifiad manwl o’r prosiect ymchwil arfaethedig.
A oes rhaid i mi fyw yng Nghaerfyrddin/ Llanbedr Pont Steffan?
Er bod nifer o fyfyrwyr ymchwil yr Ysgol yn dewis ymsefydlu yn yr ardal hyfryd hon, y mae eraill yn byw yn bell o’r Brifysgol ac yn trefnu cwrdd â’u tiwtor ymchwil yn rheolaidd. Y mae’n bosibl cadw mewn cysylltiad hefyd wrth sgwrsio ar y ffôn neu anfon llythyrau ebost. Anogir myfyrwyr i ymweld â’r Ysgol pan fo hynny’n gyfleus a manteisio ar yr adnoddau ardderchog a geir ar y ddau gampws.

