Prosiectau Cyfalaf Newydd

Adeilad Dysgu ac Addysgu newydd

Mae’r adeilad Dysgu ac Addysgu newydd ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i ddylunio’n adeilad eiconig i ateb gofynion addysgol y Brifysgol i’r dyfodol. Bydd yn darparu cyfleusterau diweddar a modern i fyfyrwyr a staff y Brifysgol.

ystadau

Bydd yr adeilad hefyd yn rhoi cyfle i gyfoethogi’r cytundebau partneriaeth â sefydliadau addysgol eraill a digwyddiadau cymunedol.

Mae 2 adain i’r adeilad, gyda 3 llawr i’r naill a 2 lawr i’r llall.

Bydd yr adeilad yn sicrhau

  • Hyblygrwydd o ran gofod
  • Ystafelloedd creadigol sy’n ysbrydoli
  • Technolegau celfi  
  • Technolegau gwybodaeth
  • Amgylcheddau iach – sy’n hyrwyddo lles
  • Dyluniad amgylcheddol a chynaliadwy cyfannol
Ystadau

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o du mewn yr adeilad, bydd y cysyniad yn cynnwys parthau astudio. Bydd tramwyfa glir yn dynodi lleoliad y rhain gyda chysylltiadau i amgylcheddau dysgu strwythuredig ac anstrwythuredig. Yn ogystal â hyn darperir gofodau astudio ffurfiol ac anffurfiol i annog dysgu mewn grwpiau, gyda neu heb dechnoleg, a fydd yn ehangu’r profiad dysgu o fannau astudio i ardaloedd cymdeithasol.

Bydd y gwaith ar y safle’n cychwyn ar 4 Gorffennaf a disgwylir i’r adeilad newydd gael ei orffen a’i drosglwyddo i’r Brifysgol ym mis Awst 2012

Ystadegau Allweddol

Costau Adeiladu Sylfaenol £/m²

£1,325/m²

Costau Gwasanaethau £/m²

£528/m²

Gwaith Allanol £/m²

£136/m²

Arwynebedd Llawr Gros (m²)

2245 m²

Cyfanswm arwynebedd y safle – hectarau (m²)

1.4ha

Ardaloedd swyddogaeth a’u harwynebedd (m²)

Addysgu - 814 m²
Swyddfeydd - 388 m²
Trafod/Addysgu Anffurfiol - 330 m²

Arwynebedd cylchrediad (m2)

363 m2

Arwynebedd storfa (m2)

32.5 m2

% arwynebedd y tir ar gyfer defnydd cymunedol

100%

% arwynebedd yr adeilad ar gyfer defnydd cymunedol

32%

Defnydd trydan rhagweledig (kWh/m²)

Rhagwelir y defnyddir tua 20 kWh/m² o drydan

Defnydd tanwydd ffosil (kWh/m²)

Rhagwelir y defnyddir tua 100 kWh/m² o danwydd ffosil

Cynnyrch ynni adnewyddadwy rhagweledig (kWh/m²)

Rhagwelir y cynhyrchir 5kWh/m² y flwyddyn o ynni adnewyddadwy trwy baneli haul PV ar do’r adeilad.  Mae’r tîm dylunio’n ymchwilio i integreiddio technolegau carbon isel eraill.

 

 

Defnydd dŵr rhagweledig m³/y pen/y flwyddyn

Rhagwelir y defnyddir tua 4m³ o ddŵr am bob myfyriwr.

% o ddefnydd dŵr rhagweledig i’w ddarparu gan ddŵr glaw neu ddŵr llwyd

Ni fwriedir defnyddio technolegau dŵr glaw na dŵr llwyd yn yr adeilad. 

 logos